Symud at y prif gynnwys

Ymchwilio i effeithiau imiwnogenig asid olëig ar wahaniaethu celloedd T rheoleiddiol (Tregs) mewn model o glioblastoma wedi’i gyd-feithrin sy’n deillio o gleifion

BTRI Logo

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Abertawe

Math o ymchwil

Darganfod

Math o ganser

Yr Ymennydd

Nod y prosiect hwn yw gwella canlyniadau i gleifion â glioblastoma (GBM), sef un o ganserau’r ymennydd sydd fwyaf ymosodol ac sy’n gwrthsefyll triniaeth. Yn aml, mae therapïau presennol yn methu oherwydd microamgylchedd tiwmorau sy’n atal imiwnedd ac sy’n cael eu gyrru gan gelloedd T rheoleiddiol (Tregs), sy’n rhwystro’r system imiwnedd rhag ymosod ar ganser. Gallai deall ac addasu’r broses hon o atal imiwnedd fod o fudd uniongyrchol i gleifion yng Nghymru wrth greu llwybrau therapiwtig newydd o fewn GIG Cymru a gwella goroesiad ac ansawdd bywyd. 

Mae Tregs mewn tiwmorau GBM yn dibynnu ar fetaboledd braster (lipid) i oroesi ac atal ymatebion imiwnedd gwrthganser. Bydd y prosiect yn profi 2-OHOA, sef cyfansoddyn synthetig sy’n treiddio i’r ymennydd, er mwyn gweld sut mae’n effeithio ar Tregs mewn modelau o GBM sy’n deillio o gleifion ac a dyfir mewn labordy. Wrth leihau nifer neu weithgarwch Tregs, gallai 2-OHOA helpu’r system imiwnedd i ymosod yn well ar diwmorau. Mae canolbwyntio ar gleifion yng Nghymru’n sicrhau bod canfyddiadau’n berthnasol i boblogaethau GBM lleol, a gallant lywio treialon clinigol yn y dyfodol yng Nghymru.

Mae gan yr ymchwil hon y potensial i fod o fudd i gleifion yng Nghymru gan y bydd yn llywio strategaethau newydd i oresgyn atal imiwnedd mewn glioblastoma, gan wella canlyniadau ac ansawdd bywyd. Yn y tymor hwy, bydd yn cryfhau arloesedd dan arweiniad Cymru ym maes niwro-oncoleg ac yn sicrhau bod cleifion lleol yn elwa’n gyntaf ar ymchwil sy’n torri tir newydd.

Tîm sy'n cymryd rhan

Dr James Cronin

Prifysgol Abertawe

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd