Symud at y prif gynnwys

Targedu Cludwyr Sinc mewn Glioblastoma: Mecanweithiau a Dulliau Newydd o Gyflenwi Therapiwtig

BTRI Logo

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Caerdydd

Math o ymchwil

Triniaethau gwell

Math o ganser

Yr Ymennydd

Nid yw cyfraddau goroesi wedi newid llawer yn ystod y degawdau diwethaf, ac mae cleifion yng Nghymru yn wynebu’r un opsiynau cyfyngedig o ran triniaeth, yn ogystal â’r her o gyflenwi cyffuriau effeithiol i’r ymennydd. Wrth ganolbwyntio ar dargedau biolegol newydd a strategaethau cyflenwi ymarferol, mae’r ymchwil hon yn mynd i’r afael ag angen hollbwysig sydd heb ei ddiwallu o fewn GIG Cymru.

Bydd yr astudiaeth yn ymchwilio i gludwyr sinc (proteinau ZIP), sy’n rheoleiddio lefelau sinc sy’n hanfodol ar gyfer swyddogaeth celloedd yr ymennydd ac sy’n gynyddol gysylltiedig â thwf canser ac ymwrthedd i driniaeth. Gan ddefnyddio arbenigedd ymchwil yng Nghymru a modelau sy’n berthnasol i gleifion, bydd y prosiect yn profi therapïau sy’n rhwystro gweithgarwch ZIP ac yn asesu dull cyflenwi lleol gan ddefnyddio microgludwyr mewnblanadwy a osodir yn ystod llawdriniaeth. Mae’r strategaeth hon wedi’i chynllunio i osgoi’r gwahanfur gwaed-ymennydd a chyflenwi triniaeth yn uniongyrchol, lle mae ei hangen. Os yw’r ymchwil yn llwyddiannus, mae’n debygol mai’r cleifion cyntaf i elwa fydd cleifion tiwmor yr ymennydd sy’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru gan y timau llawfeddygol niwrolegol yno sy’n rhoi pwyslais ar ymchwil.

Er bod hwn yn gyfnod cynnar iawn yn y gwaith ymchwil, wrth flaenoriaethu perthnasedd trosiadol i Gymru, mae’r gwaith yn anelu at gyflawni arloesiadau sy’n berthnasol yn lleol ac sy’n fuddiol i gleifion yng Nghymru yn gyntaf, gan osod sylfeini ar gyfer eu mabwysiadu’n ehangach ledled y DU.

Tîm sy'n cymryd rhan

Dr Samuel Jones

Prifysgol Caerdydd

Dr Ben Newland

Prifysgol Caerdydd