Symud at y prif gynnwys

Swyddog Digwyddiadau

A oes gennych angerdd tuag at ddigwyddiadau? Ydych chi am ein helpu i wneud gwahaniaeth i ymchwil sy’n helpu i ymestyn ac achub bywyd pobl rhag effaith dorcalonnus canser? Dyma gyfle unigryw i ymuno â’n tîm Digwyddiadau Codi Arian llwyddianus, gan ein bod yn chwilio am rywun sy’n angerddol am redeg a digwyddiadau her. Mae gan Ymchwil Canser Cymru gymuned fawr o gefnogwyr sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau rhedeg a her bob blwyddyn – gwelom dros 2000 o bobl yn codi arian fel hyn i’r elusen yn 2025! Cewch fanylion am ein portffolio blaenllaw yn y sector, o ddigwyddiadau rhedeg a her: https://www.cancerresearch.wales/cy/get-involved/our-events Mae Swyddogion Digwyddiadau Ymchwil Canser Cymru yn gyfrifol am weithio gyda’n cymuned fawr o gefnogwyr sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau elusennol, sef cymuned sy’n tyfu. Yn ogystal â rheoli digwyddiadau presennol i recriwtio cefnogwyr newydd a sicrhau eu bod yn cael profiad cadarnhaol, byddwch hefyd yn amlygu cyfleoedd newydd i ddatblygu digwyddiadau rhedeg a her eraill a allai gynyddu ymhellach ein cymuned o gefnogwyr.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.
£
Gwneud rhodd