Ein 60fed blwyddyn
Mae eleni’n nodi 60 mlynedd o gynnydd, gobaith a chefnogaeth i ymchwil canser yng Nghymru. I ddathlu’r garreg filltir hon, rydym yn gwahodd pawb i gymryd rhan a helpu i wneud ein 60fed flwyddyn yn un i’w chofio.
O heriau codi arian i ddigwyddiadau a dathliadau arbennig, mae llawer o ffyrdd o gyfranogi a bod yn rhan o rywbeth ystyrlon.
Cenhadaeth 60
Cenhadaeth 60 yw ein hymgyrch pen-blwydd arbennig i godi arian ymhlith cwmnïau ledled Cymru. Rydym yn gwahodd 60 o fusnesau yng Nghymru i fod yn bartneriaid i ni yn ein 60fed flwyddyn, a helpu i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer Ymchwil Canser Cymru.
Raffl Diemwnt Pen-blwydd 60
Mae ein Raffl Diemwnt Pen-blwydd 60 yn ffordd hwyliog a chyffrous o gefnogi ein gwaith yn ystod ein 60fed flwyddyn. Mae gwobrau gwych i’w hennill, a bydd pob tocyn a brynir yn helpu i ariannu ymchwil hanfodol i ganser, ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Cynnal digwyddiad 60au
Camwch yn ôl mewn amser a dewch ag ysbryd y 60au yn fyw gyda’ch digwyddiad thema eich hun. O bartïon gwisg ffansi i nosweithiau cerddoriaeth ac achlysuron cymunedol, mae’n ffordd ddifyr o ddathlu wrth godi arian ar gyfer achos gwych.
Meddyliwch amdanom ni yn eich dathliadau
Os ydych chi’n dathlu achlysur arbennig eleni, fel pen-blwydd, priodas neu ben-blwydd priodas, gallwch chi ddewis ein cefnogi ni yn lle derbyn anrhegion. Mae’n ffordd ystyrlon o nodi’ch achlysur wrth helpu i ariannu ymchwil sy’n newid bywydau. Gallwch chi greu tudalen codi arian ar-lein i’n cefnogi.
Ymuno yn y dathlu
Sut bynnag y byddwch chi’n dewis cymryd rhan, byddwch chi’n ein helpu i nodi 60 mlynedd o effaith, ac yn cefnogi’r bennod nesaf o ymchwil canser yng Nghymru. Diolch i chi am fod yn rhan o’n taith.