Dangosa dy Streips hefo Ymchwil Canser Cymru

Sign up for this event
Dangosa dy Streips
Cymryd RhanPecyn Dangosa dy Streips am ddim – dangoswch eich streipiau i ni!
LawrlwythoDysgwch y ddawns gyda Lewis Leigh!
Gwyliwch nawrMath o ddigwyddiad
Cyfleoedd codi arian
Dyddiad
24 Medi 2025
Dangosa dy streips. Posia dros ymchwil. Newidia fywydau.
Yr hydref hwn, rydyn ni’n annog pobl ledled Cymru i ddawnsio, i symud, ac i gael hwyl – i gyd wrth godi arian ar gyfer gwaith trawsnewidiol Ymchwil Canser Cymru.
Ymchwil Canser Cymru yw’r unig elusen sy’n ymroi’n gyfan gwbl i ariannu ymchwil canser yng Nghymru, i Gymru. Bydd un o bob dau ohonom yn cael canser, sy’n golygu y bydd canser yn effeithio rywsut ar bob un ohonom. I fynd i’r afael â hyn, mae ein hymchwil yn digwydd ar hyd a lled Cymru, yn ein cymunedau, ein hysbytai, ein meddygfeydd.
Mae’n gwneud Cymru’n lle iachach a gwell i fyw. Ni fu ein gwaith erioed mor bwysig. Erbyn 2030, amcangyfrifir y bydd gan 230,000 o bobl ar draws Cymru ganserai
Dangosa dy Streips
Gwisga dy dop, sanau, trowsus streipiog - hyd yn oed gwallt streipiog! Dangosa dy streips, dawnsia neu symuda a rhanna lun neu fideo ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #DangosaDyStreips a thagio @CancerResearchWales.
Ymuna â ni
Mae'r seren TikTok, Lewis Leigh wedi creu dawns Dangosa dy Streips newydd sbon ar gyfer ymgyrch eleni. Dysga’r symudiadau, ffilmia dy fersiwn dy hun, a'i bostio ar-lein ar 24 Medi i ddangos dy gefnogaeth.
Perswadia eraill i gymryd rhan
Cymera ran ar ben dy hun neu fel grŵp. Perswadia dy ffrindiau, teulu, ysgol, neu weithle i gymryd rhan. Neu cer gam ymhellach a chynnal stondin gacennau, cwis, neu cer ar daith feiciau, i redeg neu gerdded mewn streipiau. Mae pob gweithred yn helpu i godi arian hanfodol.