Symud at y prif gynnwys
  • Marathon

17 October 2027

Ymchwil Canser Cymru Marathon Mawr Cymru

Math o ddigwyddiad

Marathon

Marathon (Isafswm nawdd)

£500

Lleoliad

TBA

Mae Ymchwil Canser Cymru yn falch i fod yn brif bartner ar gyfer y Great Welsh Marathon gyntaf erioed

Mae Ymchwil Canser Cymru yn elusen ar gyfer pob canser, ac rydyn ni wedi ymrwymo i newid ystyr diagnosis canser trwy ei gwneud yn haws gwneud diagnosis ohono, ei drin a gwella.

Bydd eich cefnogaeth yn helpu i ddod â gwell triniaethau yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Ymunwch ag Ymchwil Canser Cymru heddiw a helpwch i newid dyfodol cleifion canser yfory yng Nghymru. Cofiwch, byddwn gyda chi bob cam o'r ffordd.

Yn fuan ar ôl cofrestru, byddwch yn cael cyswllt penodol yma yn Ymchwil Canser Cymru a fydd yn eich cefnogi ar bob cam o’r daith gyffrous hon.

Bydd mynediad i’r ras hefyd yn cynnwys

  • Pecyn codi arian pwrpasol
  • Diweddariadau rheolaidd am y digwyddiad
  • Cefnogaeth gan ein Grŵp rhedeg ar Facebook
  • Gwybodaeth am brosiectau ymchwil diweddaraf Ymchwil Canser Cymru
  • Crys T rhedeg Ymchwil Canser Cymru (pan fyddwch wedi cyrraedd £50 o’ch targed codi arian)

Trwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn gydag Ymchwil Canser Cymru, rydych yn cytuno i Delerau ac Amodau Cyfranogwyr, ac yn cytuno i rannu eich data gyda threfnwyr y digwyddiad a’u partneriaid.

Digwyddiadau eraill yr hoffech chi

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.
£
Gwneud rhodd