Cofrestrwch ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd 2027
Mae Hanner Marathon Caerdydd wedi tyfu i fod yn un o’r rasys ffordd mwyaf a mwyaf cyffrous yn y Deyrnas Unedig, gyda dros 27,500 o redwyr wedi cofrestru.
Bydd y cwrs gwastad, cyflym, yn dychwelyd yn 2027, gan fynd heibio holl olygfeydd trawiadol a thirnodau eiconig y ddinas, gan gynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm y Principality, ac ysblander Bae Caerdydd.
Bydd angen i bawb sy’n cymryd rhan ymrwymo i godi o leiaf £300 o nawdd ar gyfer y digwyddiad hwn. Yn fuan ar ôl cofrestru, cewch gyswllt pwrpasol yma yn Ymchwil Canser Cymru i’ch cefnogi bob cam o’r daith gyffrous hon.
Bydd mynediad i’r ras hefyd yn cynnwys:
- Pecyn codi arian pwrpasol
- Diweddariadau rheolaidd am y digwyddiad
- Cefnogaeth gan ein Grŵp Facebook, Clwb Rhedeg
- Gwybodaeth am Ymchwil Canser Cymru a’n prosiectau ymchwil diweddaraf
- Crys T rhedeg Ymchwil Canser Cymru (pan fyddwch wedi cyrraedd £50 o’ch targed codi arian)
- Cyfle i greu dyfodol mwy disglair i gleifion canser yng Nghymru, a’u teuluoedd
Trwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn gydag Ymchwil Canser Cymru, rydych yn cytuno i Delerau ac Amodau Cyfranogwyr, ac yn cytuno i rannu eich data gyda threfnwyr y digwyddiad a’u partneriaid.