Symud at y prif gynnwys

Telerau ac Amodau

1. Hyrwyddwr

Mae'r Raffl Pen-blwydd Diemwnt 60 yn cael ei gweithredu fel loteri elusennol i gefnogi Ymchwil Canser Cymru.

Hyrwyddir y raffl gan: Lisa Buckley, Pennaeth Cynhyrchu Incwm, Ymchwil Canser Cymru, 22 Neptune Court, Ffordd Vanguard, Caerdydd, CF24 5PJ. Rhif Elusen Gofrestredig: 1167290.

2. Cymhwystra

  • Mae'r raffl yn agored i holl drigolion Prydain Fawr sy'n 18 oed neu'n hŷn.
  • Ni chaiff unrhyw un o dan 18 oed brynu tocynnau ac ni ddylid prynu tocynnau ar ran unrhyw un o dan 18 oed.
  • Bydd unrhyw un a geir o dan 18 oed ar adeg prynu tocynnau yn colli ei gais ac unrhyw hawl i wobr yn awtomatig.

3. Cyfnod y raffl

  • Bydd y raffl yn agor ar 8 Mehefin 2026.
  • Bydd y raffl yn cau am 11.59pm ar 30 Tachwedd 2026.
  • Ni fydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu cynnwys yn y raffl a byddant yn cael eu trin fel rhodd.

4. Prynu tocynnau a cheisiadau

  • Rhaid talu am docynnau drwy blatfform awdurdodedig y raffl neu ddulliau gwerthu cymeradwy yn unig.
  • Mae tocynnau'n parhau i fod yn eiddo i Ymchwil Canser Cymru hyd nes bod y taliad llawn wedi'i dderbyn.
  • Mae'r trefnwyr yn cadw'r hawl i wrthod neu ganslo ceisiadau lle mae sail resymol i gredu bod y telerau ac amodau hyn wedi'u torri.
  • Gall bonion anghyflawn neu aneglur wneud y cais yn annilys.
  • Caiff ymgeiswyr eu cyfyngu i brynu uchafswm o 100 o docynnau.

5. Tynnu tocynnau

  • Bydd tocynnau'n cael eu tynnu ar 7 Rhagfyr 2026.
  • Bydd enillwyr yn cael eu dewis ar hap o blith yr holl geisiadau cymwys a dderbynnir cyn y dyddiad cau.

6. Manylion y gwobrau

Gwobr gyntaf: Cadwyn Aur 9ct Solet Clogau® Celebration gyda Diemwnt 0.5ct Wedi'i Dyfu mewn Labordy (Pris Manwerthu a Argymhellir: £800)

Ail wobr: Dau docyn i ddigwyddiad Blackweir Live 2027 (digwyddiad o ddewis yr enillydd, yn amodol ar argaeledd a chyhoeddiadau artistiaid)

Trydedd wobr: £100 mewn arian parod i'w dalu trwy drosglwyddiad banc

  • Ni ellir trosglwyddo, cyfnewid, na chael ad-daliad am y gwobrau.
  • Ni chynigir arian parod fel dewisiadau amgen oni nodir yn benodol.
  • Os na fydd unrhyw wobr ar gael oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y trefnwyr, mae Ymchwil Canser Cymru yn cadw'r hawl i roi gwobr arall o werth cyfatebol neu fwy yn ei lle.

7. Hysbysu enillwyr

  • Bydd yr enillwyr yn cael eu hysbysu gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarparwyd ar adeg prynu'r tocyn, naill ai dros y ffôn neu drwy e-bost, o fewn 14 diwrnod ar ôl tynnu'r tocynnau.
  • Bydd enillwyr y gwobrau yn cael eu cyhoeddi hefyd ar wefan Ymchwil Canser Cymru.
  • Os na ellir cysylltu ag enillydd o fewn 28 diwrnod ar ôl tynnu'r tocynnau, neu os yw'n gwrthod y wobr, mae'r trefnwyr yn cadw'r hawl i aildynnu'r wobr neu ei thrin fel pe bai wedi'i fforffedu.

8. Cyhoeddusrwydd

Wrth gymryd rhan yn y raffl, mae'r enillwyr yn cytuno i ddefnydd rhesymol o'u henw a/neu eu llun at ddibenion cyhoeddusrwydd a hyrwyddo sy'n gysylltiedig a'r raffl, oni bai bod y gyfraith yn ei wahardd neu ei fod wedi gofyn am hynny'n ysgrifenedig.

9. Diogelu data

Bydd data personol a roddir yn ystod y raffl hon ond yn cael ei brosesu'n unol a deddfwriaeth diogelu data berthnasol y DU ac at ddibenion:

  • gweinyddu'r raffl,
  • cysylltu ag enillwyr,
  • a chyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol neu reoleiddiol sy'n gysylltiedig a'r raffl.

10. Atebolrwydd

  • Nid yw Ymchwil Canser Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau sydd ar goll, wedi'u hoedi, yn anghyflawn, wedi'u difrodi neu heb eu cyflwyno'n llwyddiannus oherwydd rhesymau technegol neu resymau eraill y tu hwnt i'w rheolaeth.
  • Mae'r gwobrau wedi'u rhoddi'n hael ac yn ddidwyll. Nid yw Ymchwil Canser Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ansawdd, addasrwydd neu argaeledd gwobrau ar ol eu dyfarnu.

11. Cyffredinol

  • Mae cymryd rhan yn y raffl yn golygu derbyn y telerau ac amodau hyn.
  • Mae penderfyniad Ymchwil Canser Cymru ym mhob mater sy'n ymwneud a'r raffl yn derfynol ac ni fydd yn ymgymryd ag unrhyw ohebiaeth.

12. Gamblo cyfrifol

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod angen help neu gyngor ynghylch gamblo, cysylltwch a GambleAware ar 0800 8020 133.

  • Caiff ymgeiswyr eu cyfyngu i brynu uchafswm o 100 o docynnau.
  • Bydd gan ymgeiswyr y dewis o hunaneithrio o rafflau a hyrwyddiadau yn y dyfodol a weithredir gan Ymchwil Canser Cymru. Cysylltwch a contactus@cancerresearchwales.org.uk am gymorth neu i ofyn am hunaneithrio.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd