Gwirfoddolwyr codi ysbryd Hanner Marathon Caerdydd
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig i helpu i gefnogi rhedwyr #TîmYCC Ymchwil Canser Cymru yn Hanner Marathon Caerdydd 2026.
Byddwn yn chwilio am help yn ein stondin ym mhentref y digwyddiad yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ddydd Gwener (2 Hydref), dydd Sadwrn (3 Hydref), a dydd Sul (4 Hydref).
Yna, bydd angen cynorthwywyr arnom yn ein pedair Gorsaf Codi Hwyl o amgylch y cwrs 13.1 milltir o hyd ar ddiwrnod y ras ei hun, sef dydd Sul, 4 Hydref – Marina Penarth, Bae Caerdydd, y Rhath a Pharc y Rhath.
Byddwch yn cael gwahoddiad i sesiwn friffio fer ar Microsoft Teams cyn y digwyddiad ddydd Llun, 28 Medi, am 6pm ar Teams. Mae'r sesiwn friffio yn hanfodol, felly rhowch wybod i ni os na allwch fod yn bresennol ac fe wnawn ei recordio – fodd bynnag, ffefrir presenoldeb byw er mwyn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.