Symud at y prif gynnwys

Gwirfoddolwr cymunedol a digwyddiadau

Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau gwahanol y gall ein cefnogwyr gymryd rhan ynddynt i godi arian ar gyfer ein hymchwil o safon fyd-eang yng Nghymru i Gymru. O ddigwyddiadau rhedeg a seiclo i gasgliadau bwced, mae llawer o gyfleoedd y gall gwirfoddolwyr gymryd rhan ynddynt! Cymerwch gipolwg ar rai o’r gweithgareddau y gellir eu cynnwys yn y rôl hon:

  • Cymeradwyo ein cefnogwyr mewn digwyddiadau rhedeg neu feicio allweddol fel Hanner Marathon Caerdydd neu Daith Sir Benfro
  • Dosbarthu lluniaeth mewn gorsafoedd dŵr
  • Helpu i ddarparu gwybodaeth am yr elusen ar stondinau mewn digwyddiadau cymunedol
  • Ymuno â ni mewn casgliadau bwced mewn amrywiaeth o leoliadau
  • Cefnogi'r tîm gyda gwaith gweinyddol yn y swyddfa

Cyfleoedd gyda thîm CRW

Cynorthwyydd Siop

Location: Mae swyddi gwirfoddoli ar gael yn ein holl siopau
Darganfyddwch fwy

Gwirfoddolwr Safonau yn y Siop - Penarth

Location: Penarth
Darganfyddwch fwy

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd