Ymchwil Canser Cymru i lansio'i Raffl Diemwnt Pen-blwydd 60'
Dathliad diemwnt
Y diva Cymreig y Fonesig Shirley Bassey, a ganodd 'Diamonds are forever' lawer dydd yn ôl.
Ac er nad yw Ymchwil Canser Cymru wedi bodoli am byth, rydym yn dathlu ein pen-blwydd yn 60 oed yn 2026.
Mae hynny'n golygu mai dyma ein pen-blwydd diemwnt ac mae'n amser cyffrous i ni fel elusen. Eleni rydym yn dathlu 60 mlynedd o ariannu ymchwil canser o'r radd flaenaf yma ym Mhrydain.
Enillwch gadwyn diemwnt godidog
Ac rydym ar fin rhoi'r cyfle i chi ennill cadwyn diemwnt godidog i nodi ein 60 mlynedd ni o arloesi disglair.
Byddwn yn lansio ein Raffl Pen-blwydd Diemwnt 60 ac am £2, mae gennych y cyfle i ennill Cadwyn Aur 9ct Solet 'Celebration' gyda diemwnt 0.5ct wedi'i Dyfu mewn labordy gan Clogau.
Gallwch hefyd ennill pâr o docynnau i'ch dewis o ddigwyddiad yn Depot neu Blackweir Live 2027.
Ac os nad yw hynny'n ddigon i'ch denu, y trydydd gwobr yw £100 mewn arian i'w wario fel eich bod chi eisiau.
Blwyddyn nodweddiadol yn ein hanes
Meddai Lisa Buckley, Pennaeth Cynhyrchu Incwm Ymchwil Canser Cymru:
"Mae 2026 yn flwyddyn nodweddiadol yn ein hanes a dyma pam ein bod yn lansio ein raffl gyntaf erioed gyda gwobrau anhygoel a ddarparwyd gan Clogau a Blackweir Live, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu haelioni a'u cefnogaeth."
"Rydym yn dathlu 60 mlynedd o Ymchwil Canser Cymru ac mae hynny'n golygu 60 mlynedd ohonom ni'n gwthio ffiniau ymchwil canser drwy ariannu ymchwil i driniaethau canser sy'n ymestyn bywyd ac yn achub bywydau yma yng Nghymru ar gyfer pobl Cymru."
Buddsoddi £41.68 miliwn mewn ymchwil canser yng Nghymru
"Yn ystod y 60 mlynedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi £41.86 miliwn mewn prosiectau ymchwil canser arloesol ar led Cymru gan gynnwys rhai sy'n ymchwilio i ddiagnosis cynt a thriniaethau ar gyfer tiwmorau'r ymennydd, a chanser y coluddyn, y brostad a'r fron."
"Helpwch ni i barhau â'r gwaith pwysig hwn drwy gymryd rhan yn Raffl Pen-blwydd Diemwnt 60 Ymchwil Canser Cymru ac efallai y byddwch chi'n ennill cadwyn diemwnt, ac wrth wneud hynny, byddwch yn gwybod bod eich cefnogaeth chi yn helpu ni i ariannu ymchwil hanfodol canser yma yng Nghymru."
Byddwn yn lansio ein Raffl Diemwnt yn fuan - cadwch olwg ar ein gwefan a cyfryngau cymdeithasol.