Symud at y prif gynnwys

Enwi Ymchwil Canser Cymru yn Brif Bartner Elusennol Cyntaf Marathon Mawr Cymru

Cyhoeddwyd mai Ymchwil Canser Cymru yw prif bartner elusennol cyntaf Marathon Mawr Cymru, wrth i’r elusen ddathlu ei 60 mlwyddiant o gefnogi ymchwil canser ledled Cymru

Bydd y bartneriaeth yn rhoi cyfle i redwyr ymgymryd â’r her 26.2 milltir wrth godi arian hollbwysig ar gyfer ymchwil canser, gyda disgwyl i’r sawl sy’n codi arian i Ymchwil Canser Cymru gael blaenoriaeth unigryw i lefydd elusennol ar gyfer Marathon Mawr Cymru 2027.

Mae’r bartneriaeth yn nodi pennod newydd bwysig i Marathon Mawr Cymru wrth i’r digwyddiad baratoi i groesawu cenhedlaeth newydd o redwyr a chynyddu cyfleoedd i gyfranogwyr gyfuno eu her marathon â chodi arian ar gyfer achosion sy’n agos i’w calonnau.

O ran Ymchwil Canser Cymru, daw’r bartneriaeth yn ystod blwyddyn nodedig i’r elusen annibynnol yng Nghymru, wrth iddi ddathlu 60 o flynyddoedd yn ariannu ymchwil arloesol i wella’r ffyrdd y caiff canser ei ddiagnosio a’i drin yng Nghymru.

Dywedodd Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru:

“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn brif bartner elusennol cyntaf Marathon Mawr Cymru, yn enwedig wrth i elusen Ymchwil Canser Cymru ddathlu ei phen-blwydd yn 60 oed.

“Ers chwe degawd, rydyn ni wedi bod yn cefnogi ymchwil canser hanfodol yng Nghymru, a bydd pob rhedwr sy’n derbyn yr her 26.2 milltir ar ran Ymchwil Canser Cymru yn ein helpu i barhau â’r gwaith pwysig hwnnw. Gall yr arian sy’n cael ei godi gan ein rhedwyr helpu i gefnogi ymchwil a allai wella sut mae canser yn cael ei ganfod, sut mae’n cael ei ddiagnosio a sut mae’n cael ei drin yma yng Nghymru.

“Mae Marathon Mawr Cymru yn gyfle cyffrous i ddod â rhedwyr, cefnogwyr a chodwyr arian o bob cwr o Gymru a thu hwnt ynghyd. Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o’r bennod nesaf hon ac yn edrych ymlaen at weld ein cefnogwyr yn ymgymryd â’r her wrth i ni nodi ein 60ain mlwyddiant.”

Blaenoriaeth unigryw i redwyr sy’n codi arian i Ymchwil Canser Cymru

Fel rhan o’r bartneriaeth, bydd rhedwyr sy’n codi arian i Ymchwil Canser Cymru yn cael blaenoriaeth unigryw a chyfle i sicrhau lle ym Marathon Mawr Cymru cyn derbyn ceisiadau cyffredinol. Bydd y rhai sydd eisiau rhedeg ar ran Ymchwil Canser Cymru yn gallu sicrhau eu lle ar 15 Hydref am £10 yn unig, drwy addo codi £500 i’r elusen erbyn 17 Tachwedd 2027.

Boed yn farathon cyntaf, yn ymgais i guro amser personol neu’n her er cof am rywun arbennig, gall rhedwyr droi pob milltir yn gyfle i gefnogi ymchwil canser yng Nghymru.

Dywedodd Tash Smith, Rheolwr Gyfarwyddwr Front Runner Events:

“Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Ymchwil Canser Cymru i fod yn brif bartner elusennol cyntaf i Marathon Mawr Cymru.

“Mae digwyddiad 2027 yn cynrychioli pennod newydd arwyddocaol i Marathon Mawr Cymru, ac mae cael elusen sydd â hanes mor gryf a rôl mor bwysig yn cefnogi ymchwil canser yng Nghymru wrth wraidd y digwyddiad yn gwneud y cyfan yn arbennig tu hwnt.

“Gydag Ymchwil Canser Cymru yn dathlu ei 60 mlwyddiant, rydyn ni eisiau rhoi cyfle unigryw i gefnogwyr yr elusen fod yn rhan o’r marathon. Mae’r cynllun blaenoriaeth unigryw yn golygu y gall unrhyw un sy’n codi arian i’r elusen sicrhau eu lle yn gynnar ac ymgymryd â’r her 26.2 milltir gan wybod bod pob cam yn helpu i gefnogi ymchwil canser hanfodol.”

Cynhelir Marathon Mawr Cymru ar 17 Hydref 2027, gyda cheisiadau cyffredinol yn cael eu derbyn ar 20 Hydref 2026. Bydd rhedwyr sy’n codi arian i Ymchwil Canser Cymru yn cael cyfle cynnar i sicrhau eu lle, derbyn crys-t rhedeg Ymchwil Canser a chael yr holl gefnogaeth angenrheidiol yn ystod y cyfnod cyn diwrnod y ras.

Mae’r bartneriaeth yn rhan o rwydwaith elusennol ehangach, gyda’r partner codi arian swyddogol JustGiving yn helpu i wneud y gwaith o godi arian yn syml a sicrhau bod pob rhodd yn mynd ymhellach, fel bod y rhedwyr yn gallu canolbwyntio ar y peth pwysicaf un!

Gyda’i gilydd, mae rhedwyr, elusennau a chymunedau yn helpu i lywio’r digwyddiad marathon blaenllaw hwn yng Nghymru – gan greu mwy o gyfleoedd i gyfranogwyr wneud i’r milltiroedd gyfri go iawn.

Marathon Mawr Cymru 2027

  • Dyddiad: Dydd Sul 17 Hydref 2027
  • Lleoliad: I’w gyhoeddi.
  • Pellter: Marathon unigol – 26.2 milltir
  • Targed: 7,500 o redwyr
  • Cyhoeddi’r llwybr: Tachwedd 2026

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.
£
Gwneud rhodd