Ymchwil Canser Cymru yn annog Cymru i uno yn erbyn canser y fron
Elusen yn lansio ei ymgyrch Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron
Mae Ymchwil Canser Cymru yn gofyn i'r cyhoedd wisgo pinc mis Hydref hwn i gefnogi pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser y fron, ac i godi arian i helpu ariannu ein hymchwil sy'n achub bywydau.
Codi ymwybyddiaeth
“Rwy'n hynod falch o fod yn llysgennad i Ymchwil Canser Cymru. Yr Hydref hwn, fel rhan o Fis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, rydym yn codi ymwybyddiaeth am ganser y fron,” meddai'r cyflwynydd radio, darlledwr a llysgennad Ymchwil Canser Cymru, Angela Jay.
“Bydd un o bob saith o bobl yma yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser y fron. Sut allwn ni i gyd helpu? Gallwn godi cymaint o ymwybyddiaeth ag y gallwn, er mwyn ariannu diagnosis cynnar yma yng Nghymru, ac fe allwch chi helpu drwy wisgo pinc a siarad am ganser y fron gyda'ch ffrindiau a'ch teulu,” ychwanegodd hi.
Sêr chwaraeon Cymru
Yn ddiweddar, ymunodd Angela â 13 o sêr chwaraeon Cymru a staff o Ymchwil Canser Cymru yng Nghastell Caerdydd ar gyfer tynnu lluniau i lansio ein hymgyrch Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron.
Roedd Charlotte ‘Lotty’ Whalley yno hefyd, codwr pwysau sydd wedi ennill medalau ym Mhencampwriaethau'r Gymanwlad a Gemau'r Gymanwlad, a phencampwr codi pwysau 63kg merched Cymru.
Roedd gôl-geidwad Merched CPD Dinas Caerdydd Daniela Kosińska, Marie Tilley, pêl-droediwr stryd rhyngwladol Cymru, a Leah Middleton a Phillipa Yarranton, sydd yn chwarae pêl-rwyd i'r LexisNexis Risk Solutions Dragons, yno hefyd.
Daeth y golffwyr rhyngwladol Cymreig Fauve Birch a Kath O'Connor, a'r gymnastwraig Laura Halford, a enillodd fedalau yng Ngemau'r Gymanwlad, i'r lansiad.
Ac o Glwb Pêl-fasged Cardiff Met Archers, roedd Alyssa Durazo-Frescas, Laila Anderson, Ivory Finley, Emma Bailey a Lily Parkin wedi galw draw i ddangos eu cefnogaeth.
Cefnogi ymchwil hanfodol
Dywedodd Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru:
“Drwy gymryd rhan ym Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron gydag Ymchwil Canser Cymru'r Hydref hwn, byddwch yn helpu i gefnogi ymchwil hanfodol, gwella canlyniadau i gleifion a dod â gobaith i deuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan ganser ledled Cymru. Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.
“Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi hyd yma i godi ymwybyddiaeth a throi sylw at yr ymchwil rydym yn ei ariannu i ganser y fron yma yng Nghymru, ond mae angen hyd yn oed mwy o bobl a busnesau i ymuno â ni yn erbyn canser y fron.
“Felly'r Hydref hwn, gwisgwch binc os gwelwch yn dda, casglwch arian ar gyfer Ymchwil Canser Cymru, a thrwy gydweithio gallwn barhau i ariannu ymchwil newydd i roi gobaith i fenywod sydd wedi'u heffeithio gan ganser y fron ledled Cymru, eu teuluoedd a'u hanwyliaid.”