Symud at y prif gynnwys

Llwyddiant i Ymchwil Canser Cymru yng Ngwobrau Elusennau Cymru

Ennill gwobr ‘Mudiad y Flwyddyn’

Roedd hi'n noson fawr i Ymchwil Canser Cymru yn Ngwobrau Elusennau Cymru’r CGGC 2026 yn Nhŷ Gwesty Hilton, Caerdydd neithiwr wrth i ni ennill gwobr ‘Mudiad y Flwyddyn’.

Wedi’i noddi gan Brifysgol Agored Cymru, cyflwynwyd y wobr i ni am ddangos rhagoriaeth mewn effeithlonrwydd, arweinyddiaeth, llywodraethu, arloesedd a chynhwysiant.

Canlyniadau rhagorol

Mae hefyd yn cydnabod bod Ymchwil Canser Cymru wedi cyflawni canlyniadau rhagorol a chreu newid positif, parhaol i unigolion neu gymunedau.

I gyrraedd y rowndiau terfynol, roedd yn rhaid i Ymchwil Canser Cymru ddangos sut roeddem wedi cynnal safonau uchel wrth gofleidio arloesedd, gwydnwch, cydraddoldeb, amrywiaeth, gwrth-hiliaeth a’r Gymraeg – a chael effaith ystyrlon ar yr un pryd.

Gwella canlyniadau i gleifion

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Adam Fletcher, Prif Weithredwr Ymchwil Canser Cymru:

“Sefydlwyd Ymchwil Canser Cymru yng Nghanolfan Canser Felindre yn 1966 gan grŵp o feddygon ac ymchwilwyr oedd eisiau gwella canlyniadau i gleifion yng Nghymru.

“Mae hanes yr elusen yn hynod ddiddorol, ond dros y 60 mlynedd diwethaf rydym wedi dod yn elusen annibynnol Cymru gyfan ac rydym yn gweithio ym mhob cymuned yng Nghymru erbyn hyn i helpu pobl i godi arian i ariannu ymchwil canser newydd yng Nghymru.

“Mae'r holl arian a godwn yn aros yng Nghymru er budd cleifion ac ymchwilwyr yng Nghymru, felly diolch o galon am y wobr hon – ni allaf aros i rannu’r Newyddion gydag ein holl staff a chefnogwyr.”

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.
£
Gwneud rhodd