Symud at y prif gynnwys

Cardiau Nadolig ar gael nawr yn ein siopau ac ar-lein

Cefnogwch ymchwil canser o safon fyd-eang yng Nghymru trwy anfon cerdyn Nadolig Ymchwil Canser Cymru at eich teulu, ffrindiau a’ch anwyliaid

Prynwch ein cardiau Nadolig i helpu drawsnewid bywydau cleifion canser yng Nghymru

Siopa Arlein

Mae ein cardiau Nadolig ar gael mewn pecynnau o ddeg mewn amrywiaeth o ddyluniadau am £4.50 (ar-lein) a £3.50 yn y siop.

O ddynion eira i robin goch; defaid a chŵn Nadoligaidd, angylion Nadolig - mae rhywbeth at ddant bawb. Rydym yn gwerthu cardiau Nadolig dwyieithog ar-lein ac yn ein siopau.

Gallwch hefyd ddod o hyd i hanfodion Nadolig yn ein siop ar-lein, gan gynnwys papur lapio, calendrau, a labeli. 

Yn ogystal, gallwch brynu cardiau Nadolig Ymchwil Canser Cymru yn eich siop Ymchwil Canser Cymru agosaf.

Dywedodd Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru: 

"Helpwch ni i uno Cymru yn erbyn canser y Nadolig hwn drwy alw i mewn i'ch siop Ymchwil Canser Cymru agosaf a phrynu rhai o'n cardiau Nadolig. "Drwy wneud hynny, gallwch ein cefnogi i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion canser ledled Cymru a rhoi gobaith i'r genhedlaeth nesaf o gleifion canser.

"Fel yr elusen ymchwil canser Gymeig, rydym yn gwario ein holl gyllid ymchwil yma yng Nghymru i ddod o hyd i driniaethau gwell ar gyfer pob canser er mwyn darparu ansawdd bywyd gwell i bobl sy'n byw gyda'r clefyd."

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd