Symud at y prif gynnwys

Cyhoeddiad i'n Cwsmeriaid: Newidiadau yn Effeithio Cyfraniadau o 6 Ebrill 2024

O 6 Ebrill 2024, mae cyfraith newydd a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn mynnu bod yn rhaid i bob elusen, a sefydliad busnes roi trefn ar eu gwastraff i'w ailgylchu

Gyda'r newidiadau hyn mewn golwg, mae'n rhaid i Ymchwil Canser Cymru wneud ein cwsmeriaid yn ymwybodol o'r rhoddion a dderbyniwn, yn benodol o ran yr hyn y gallwn ac na allwn ei ailgylchu.

Yn ddiweddar, rydym wedi gweld cynnydd yn y rhoddion sydd wedi mynd heibio i'r pwynt o gael eu hailwerthu ac felly ein cyfrifoldeb ni wedyn yw eu gwaredu.

Byddem yn gwerthfawrogi'n fawr pe byddech yn gallu cymryd eiliad i wirio eich eitemau a roddwyd, a gofyn 'A yw'r eitem hon mewn cyflwr gwerthadwy?' os mai NA yw'r ateb, yna gofynnwn yn garedig i chi fynd â'r eitem i'r ganolfan ailgylchu.

Elusen ydym ni a ni allwn waredu rhoddion anaddas heb orfod talu cost, sy'n dadwneud eich caredigrwydd a'ch cefnogaeth hael i'r elusen.

Rydym yn gwerthfawrogi pob rhodd a heb y gefnogaeth gymunedol ni fyddem yn gallu ariannu'r ymchwil hanfodol a wnawn.

Os bydd yn rhaid i ni wrthod unrhyw roddion, peidiwch â theimlo'n ddig gan mai dim ond budd gorau'r elusen sydd gennym yn y bôn. Os nad ydych yn hapus gyda gwrthodiad, siaradwch â Rheolwr y siop.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am roddion, peidiwch ag oedi cyn siarad â'n staff neu gyfeirio at ein gwefan.

Hoffai Ymchwil Canser Cymru ddiolch i chi am eich cefnogaeth a'ch dealltwriaeth barhaus ar gyfer y mater pwysig hwn.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.