Ffrindiau a unwyd drwy ganser yn codi £7,010 ar gyfer Ymchwil Canser Cymru
Taith gerdded o obaith rhwng Pont Conwy a Phont Menai
Mae pedair gwraig o Ynys Môn a ddaeth yn ffrindiau agos wrth iddynt gael eu trin am ganser wedi codi £7,010 ar gyfer Ymchwil Canser Cymru.
Yn ystod y 18 mis diwethaf, cafodd Catrin, Julie, Siobhan a Kathy i gyd ddiagnosis a thriniaeth am ganser ac wynebu llawdriniaeth, cemotherapi, a radiotherapi.
Yn ogystal a hynny, wynebodd pob un ohonynt y straen emosiynol sy'n dod gyda diagnosis o ganser sy'n newid bywyd.
Ond ym mis Ebrill, penderfynodd y pedair droi eu sylw at gerdded 18 milltir o Bont Conwy i Bont Menai y tu allan i Fangor.
Ymunodd eu ffrindiau a'u teuluoedd yn y daith, gan eu hannog a chodi eu hwyliau yn uchel.
Awyr iach a chefnogaeth
Dechreuodd Catrin a Julie gerdded gyda'i gilydd ar ôl iddynt gael diagnosis canser, syniad Julie oedd o, roedd yn gyfle i gael awyr iach a chefnogi ei gilydd.
Ychydig yn ddiweddarach, ymunodd Siobhan a Kathy hefyd a nhw, tra roedden nhw hefyd ar eu teithiau canser eu hunain.
Daeth y teithiau cerdded yn amser o ddiogelwch a chylch o ddealltwriaeth, cymorth a gwydnwch gyda'i gilydd i'r pedwar ffrind.
"Roedd rhywbeth yn anhygoel o bwerus am fod gyda phobl sydd wir yn deall," dywedodd Julie. "Yr ofnau, y sgil-effeithiau, yr hiwmor tywyll, y buddugoliaethau bach. Gyda'n gilydd fe gawsom gysur, gwelsom ddewrder a cawsom chwerthin yng nghanol y cyfan."
Her arall
Wedi'u hysbrydoli gan y nerth yr oeddynt yn cael gan ei gilydd, penderfynodd y pedair wynebu sialens fwy.
Felly, ar 25 Ebrill, fe gerddon nhw o Bont Conwy i Bont Menai, gan droi'r milltiroedd yn obaith a phenderfyniad.
"Roedd mwy i'r daith gerdded hon na phellter," meddai Catrin. "Mae'n cynrychioli pa mor bell mae pob un ohonom wedi dod. Y dyddiau caled, yr ofn, ystafelloedd aros yr ysbyty, a'r penderfyniad i barhau."
Dewisodd y grŵp gasglu arian i Ymchwil Canser Cymru, yr elusen ymchwil canser annibynnol Gymreig, gan dynnu sylw at y gwaith pwysig mae ymchwil yn ei chwarae wrth achub bywydau a gwella triniaethau canser.
Mae ymchwil yn achub bywydau
Mae'r pedair yn dweud y cawsant eu hysbrydoli gan genedlaethau blaenorol a gododd arian am y therapïau y'u cawsant hwy a'u helpu nhw trwy eu salwch ac roeddent eisiau dangos eu diolchgarwch.
"Mae ymchwil yn achub bywydau. Mae'r triniaethau a gawsom yn bodoli oherwydd bod pobl wedi codi arian yn y gorffennol, a nawr dyma'n tro ni a gyda'n gilydd, cam wrth gam, rydym yn symud pethau ymlaen."