Gwestai arbennig yn dathlu penblwydd siop Cas-gwent Ymchwil Canser Cymru
Ymwelodd Robin Osterley - Prif Weithredwr Cymdeithas Manwerthu Elusennau sy’n cynrychioli siopau elusennol ledled y DU - â siop Ymchwil Canser Cymru yng Nghas-gwent i ymuno â’r dathliadau penblwydd

Cyfarfu Robin Osterley â staff a gwirfoddolwyr Ymchwil Canser Cymru sydd wedi sefydlu’r siop fel cyrchfan boblogaidd ar brif stryd y dref ac a ddysgodd am lwyddiant gweithrediadau manwerthu’r elusen ledled Cymru.
Wrth sôn am ei ymweliad, dywedodd Robin Osterley:
“Roedd yn fraint bod yn bresennol ar ben-blwydd cyntaf siop Cas-gwent! Ac yn hyfryd cael fy ngwahodd a chwrdd â’r staff a’r gwirfoddolwyr, sydd mor amlwg wedi ymrwymo i weithio’n galed dros achos mor wych. Mae manwerthu elusennol yn ymwneud â chymryd rhan a chyfrannu at y gymuned, ac roedd yn glir o’r ymweliad fod Ymchwil Canser Cymru wedi llwyddo i wneud hynny’n wych. Penblwydd hapus iawn!”
Agorodd y siop ei drysau i gwsmeriaid yn 21 Heol Fawr ar ddydd Sadwrn 25 Mai 2024, a chafodd y rhuban ei dorri gan Faer Cas-gwent ar y pryd, y Cynghorydd Tudor Griffiths.
Cafwyd cynigion arbennig yn y siop dros y penwythnos pen-blwydd, a oedd yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau ail-law gan gynnwys dillad menywod, dynion a phlant, yn ogystal â nwyddau i’r cartref.
Ymddangosodd masgot newydd Ymchwil Canser Cymru hefyd dros y penwythnos – Streipen y Ddraig – a groesawodd gwsmeriaid ac aelodau o’r cyhoedd.
Dywedodd Prif Weithredwr Ymchwil Canser Cymru, Adam Fletcher:
“Rwy’n hynod ddiolchgar i Robin am ddod i ymweld â’n siop yng Nghas-gwent a dathlu ei llwyddiant, yn ogystal â llwyddiant ein 14 siop arall ledled Cymru.
“Rwy’n hefyd yn ddyledus i bobl Cas-gwent a’r ardal gyfagos – gan gynnwys ein gwirfoddolwyr a’n staff gwych – sydd wedi cefnogi’r siop trwy siopa yma a rhoi nwyddau ail-law i’w gwerthu dros y 12 mis diwethaf, gan helpu i’w sefydlu.
“Rwy’n edrych ymlaen at y 12 mis nesaf ac at weld siop Ymchwil Canser Cymru yng Nghas-gwent yn mynd o nerth i nerth ac yn parhau i gefnogi ein cenhadaeth o uno Cymru yn erbyn canser.”