Symud at y prif gynnwys

Jake Devline-Reed yn herio’r Wyddfa er cof am ei daid

Seren deledu o Abertawe i godi arian ar gyfer ymchwil tiwmorau’r ymennydd

Inspired by Jake's story? Enter the Black Diamond Yr Wyddfa | Snowdon24 2025 for Cancer Research Wales today

Learn more

Bydd seren teledu realiti Cymreig Jake Devline-Reed yn herio’r Wyddfa mis nesaf i godi arian i goffáu ei daid.

Bydd Jake - seren y rhaglen ‘I Kissed a Boy’ ar BBC Three, yn dringo ac yn esgyn mynydd uchaf Cymru cymaint o weithiau â phosib mewn 24 awr ar 12 Gorffennaf i godi arian ar gyfer Ymchwil Canser Cymru.

Wrth wynebu her y Black Diamond Yr Wyddfa | Snowdon24 2025, mae Jake hefyd yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am boen colli ei daid - Kenneth, oherwydd tiwmor ar ei ymennydd.

Fy myd cyfan yn chwalu

“Roedd yn teimlo fel pe roedd fy myd cyfan yn chwalu. Roeddem yn delio â marwolaeth fy nain, pan aeth fy nhaid yn ddifrifol sâl y diwrnod ar ôl ei angladd. Rwy’n cofio ei frysio i’r ysbyty”, meddai Jake.

“Roedd eu clywed [y meddygon] yn dweud fod gan Taid diwmor ar yr ymennydd a chwe mis yn unig i fyw yn ysgytfa go iawn. Mewn gwirionedd, bu farw pythefnos yn ddiweddarach yn 80 oed. Roedd Taid wedi cael drip i helpu i leihau’r chwyddo ar ei ymennydd, ond a bod yn onest, roeddem yn gwybod yn iawn nad oedd hwn yn ateb hirdymor. Roedd y tiwmor yn arwain at gymhlethdodau sylweddol ac roedd Taid yn dioddef ataliadau. Dechreuodd wanhau mor gyflym - gallwn ei weld yn ei lygaid”, ychwanegodd Jake.

Creu atgofion hapus

Profiad anodd oedd gwylio Kenneth yn dirywio, ond gwnaeth Jake yn siŵr bod eu hwythnosau olaf gyda'i gilydd yn cael eu treulio yn creu atgofion hapus a mwynhau cwmni ei gilydd.

“Roedd gwylio rhywun mor gryf yn gwanhau a dirywio, yn anodd ei brosesu. Yn y wythnosau olaf hynny, ceisiais droi fy sylw at werthfawrogi'r eiliadau a oedd gennym ar ôl gyda'n gilydd. ‘Fydda i'n cofio eistedd gyda fe, yn cofio’n digwyddiadau teuluol, yn chwerthin dros hen straeon, ac yn mwynhau bod gyda'n gilydd. Mi ei gymerais ar deithiau byr yn yr ardd. Yr atgofion yma sydd yn bwysig i mi wrth edrych yn ôl,” adlewyrchodd Jake.

Byth eisiau i unrhyw un arall brofi'r hyn a brofom ni

Nawr mae Jake wedi penderfynu anrhydeddu cof ei daid trwy godi arian ar gyfer Menter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd Ymchwil Canser Cymru, fel y dywedodd ef:

"Ni fyddaf byth eisiau i unrhyw un arall brofi'r hyn a brofodd fy nhaid a ni pan gollon ni ef i'r tiwmor ar ei ymennydd a dyna pam rwy'n cefnogi Ymchwil Canser Cymru a'i Fenter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd."

Ymchwil arloesol am diwmorau’r ymennydd

Sefydlwyd y Fenter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd yn 2024, ac mae'n ariannu prosiectau arloesol i ymchwilio a darganfod gwell triniaethau ar gyfer tiwmorau’r ymennydd.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Jake am ymgymryd â’r her anhygoel hon er cof am ei daid. Bydd yn dringo ac yn esgyn Yr Wyddfa cymaint â phosibl mewn 24 awr i godi arian i gefnogi ein Menter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd, neu BATRI fel y’i galwyd hefyd,” meddai Adam Fletcher, Prif Weithredwr Ymchwil Canser Cymru.

Ymchwil hanfodol bwysig

“ 'BATRI' yw’r fenter gyntaf o'i fath yng Nghymru a thrwyddo rydym yn ymrwymo hyd at £1 miliwn y flwyddyn am bum mlynedd i ariannu ymchwil arloesol yng Nghymru i diwmorau’r ymennydd, gan gynnwys tiwmorau'r system nerfol ganolog a chanser sydd wedi lledaenu i'r ymennydd.

“Nid yw cyfraddau goroesi hirdymor tiwmorau'r ymennydd wedi dangos fawr ddim gwelliant dros y 30 mlynedd diwethaf, gyda llai na 15% o gleifion yn goroesi 10 mlynedd neu fwy ar hyn o bryd. Mae’r gwaith ymchwil yma’n hanfodol bwysig ac mae’r diolch i Jake a'n holl godwyr arian gwych eraill ein bod yn gallu gwneud hyn,” meddai Adam Fletcher.