Symud at y prif gynnwys

Mari Grug yn cymryd rhan yn y She Ultra dros Ymchwil Canser Cymru

Llysgennad i godi arian ar daith 50km o Abersoch i Bwllheli   

Banner CTA – Cymraeg

Cefnogwch ymgyrch codi arian Mari Grug

Gallwch chi gefnogi ymdrechion anhygoel Mari trwy gyfrannu at ei hymgyrch codi arian:

Cyfrannwch nawr
Mari Grug yn cymryd rhan yn y She Ultra dros Ymchwil Canser Cymru

Mae Mari Grug – y peronoliaeth deledu a radio a'r awdur poblogaidd a'n llysgennad arbennig, yn cymryd rhan yn y She Ultra dros Ymchwil Canser Cymru.

Ar 11 Ebrill, bydd Mari a grŵp o'i ffrindiau yn cerdded y daith brydferth 50km o'r traeth yn Abersoch i ganol Pwlhelli yn Mhen Llŷn. Byddant yn ymuno â 1,800 o fenywod eraill ar gyfer digwyddiad marathon ultra benywaidd mwyaf y byd.

Dechrau teimlo'n wir

"Yn ddigon ffôl, mi ddywedais ar deledu byw y llynedd fod gennyf awydd cymryd rhan yn yr her She Ultra, felly ym mis Awst 2025, cofrestrais ar gyfer y digwyddiad. Mae llai na mis i fynd erbyn hyn, ac mae bellach yn dechrau teimlo'n wir iawn. Rwy'n gorfod atgoffa fy hun nad ydwyf i mewn ras a bydd fy ffrindiau gyda mi," meddai Mari Grug.

"Rwy'n codi arian ar gyfer Ymchwil Ganser Cymru – yr elusen ymchwil canser Cymreig, felly os gallwch gyfrannu, byddai pob rhodd yn cael ei werthfawrogi'n fawr iawn."

Datgelodd Mari, sydd yn fam i dair o blant, ym mis Gorffennaf 2023 fod hi wedi bod yn derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron metastatig. Cafodd ei gwneud yn llysgennad i Ymchwil Canser Cymru ym mis Ionawr 2025.

Llysgennad rhyfeddol iawn

"Mae Mari yn llysgennad rhyfeddol dros Ymchwil Canser Cymru ac rydym yn hynod lwcus ac yn ddiolchgar am bopeth mae hi'n ei wneud dros yr elusen," meddai Lisa Buckley, Pennaeth Cynhyrchu Incwm Ymchwil Canser Cymru.

"Mae ei chyfraniad i'n gwaith yn enfawr – o gyflwyno ein cyngerdd Trysori a swper gala, i godi ymwybyddiaeth o Ymchwil Canser Cymru drwy yrru tractor pinc wedi'i frandio mewn digwyddiad ymwybyddiaeth canser yn Sir Benfro, wrth gymryd rhan mewn sesiynau cemotherapi bob tair wythnos, gyrfa brysur a bod yn wraig ac yn fam i dri phlentyn ifanc, mae hi'n wirioneddol yn berson rhagorol.

"Ni allwn ddiolch iddi ddigon ac fe hoffwn ofyn i bawb sydd â'r gallu i gefnogi ymdrechion anhygoel Mari a'i noddi ar gyfer She Ultra 2026."