Symud at y prif gynnwys

Noswaith i'w thrysori gydag Ymchwil Canser Cymru

Cynhaliwyd y noson yn yr adeilad art deco ysblennydd – y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, ac fe’i arweinwyd gan ein llysgennad anhygoel – y bersonoliaeth teledu a radio, Mari Grug

Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi ein cyngerdd Trysori cyntaf erioed – noswaith i drysori’r rhai rydych chi'n eu caru sydd wedi cael eu cyffwrdd gan ganser, ar 27 Tachwedd.

Dechreuodd y noson gyda pherfformiad gan y delynores Cerys Rees wrth i’n 160 o westeion gymryd eu seddi ar gyfer y cyngerdd arbennig.

Côr, Clasuron a Coldplay

Unwaith i bawb eistedd, daeth Ysgol Gynradd Rhydypenau i'r llwyfan a chanu ‘For a Moment’, ‘Viva la Vida’ gan Coldplay a ‘Somewhere Only We Know’.

Yna, y canwr a chyfansoddwraig a chyflwynydd radio Bronwen Lewis a swynodd pawb gyda'i pherfformiadau o ganeuon gan gynnwys ‘Ti a Fi’, ‘Stand By Me’ a ‘Calon Lân’.

Y côr o Gaerdydd, Côrdydd, oedd y nesaf i berfformio ac fe gannon nhw fersiynau o glasuron gan gynnwys ‘Pantyfedwen’, ‘Peace’, ‘O Gymru’, ‘Softly’ a ‘Alleluia’.

Moment i’w Drysor

Dilynwyd hynny gan un o uchafbwyntiau’r noson - perfformiad gan Lucy Clarke a Cerys Rees o 'Moment i’w Drysori', a gafodd ei gyfansoddi yn arbennig ar gyfer y noson gan Lucy.

Wrth gyflwyno'r ddwy, dywedodd Mari Grug:

“Mae 'Moment i’w Drysori' yn waith myfyrdodol ar gyfer alto a thelyn, yn archwilio’r cydbwysedd cain rhwng llawenydd a cholled. Wedi’i ysbrydoli gan gerdd Gymraeg Sioned Haf Thomas, 'Cerdd i Ffrind', canir y testun yn ei iaith wreiddiol yn gyntaf cyn datblygu mewn Saesneg, gan adlewyrchu taith yr atgofion a dealltwriaeth.

“Mae'r cyfuniad o’r llais a’r delyn yn creu gofod o ddistawder ac agosatrwydd, lle mae adlewyrchiad a thawelwch yn siarad gyda dyfnder cyfartal. Wedi’i gyfansoddi ar gyfer perfformiad i gefnogi Ymchwil Canser Cymru, mae'r darn yn deyrnged ac yn fyfyrdod sydd yn ein hatgoffa ni o fregusrwydd a nerth ysbryd dynol, ac am yr eiliadau gwerthfawr sy’n aros gyda ni hyd yn oed ar ôl iddynt ein gadael,” ychwanegodd Mari Grug.

Uno Cymru yn erbyn canser

Daeth y cyngerdd i ben gyda Ysgol Gynradd Rydypenau yn dychwelyd i’r llwyfan gyda Chôrdydd mewn perfformiad bywiog o ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ gyda’r gynulleidfa yn ymuno yn y canu.

Dywedodd Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru:

“Hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth i gefnogi ac i berfformio yn y cyngerdd Trysori. Roedd yn noson wych ac weithiau’n un dwys yn emosiynol, ond yn enghraifft anhygoel o sut gall pawb ohonom wneud ein rhan i uno Cymru yn erbyn canser.“