Symud at y prif gynnwys

Sbotolau ar ymchwil canser y brostad yng Nghymru

Mae canser y brostad yn destun pryder mawr o ran iechyd yng Nghymru. Hwn yw’r math mwyaf cyffredin o ganser ymhlith dynion, ac mae tua 2,800 o achosion yn cael eu canfod bob blwyddyn. Er bod modd trin llawer o achosion yn y dyddiau cynnar, a bod iddynt gyfraddau goroesi yn yr hirdymor, mae deilliannau’n gwaethygu’n sylweddol wedi i’r clefyd ledaenu

Mae Ymchwil Canser Cymru yn ariannu llawer o brosiectau canser y brostad sy’n mynd i’r afael â materion allweddol ar gyfer y math hwn o ganser, yn cynnwys datblygu opsiynau gwell o ran triniaeth a rhagweld risg y bydd y canser yn dychwelyd.

Gwneud penderfyniadau gwybodus trwy brofion rhagfynegol

Mae un prosiect, sy’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ymchwilio i b’un a ellir defnyddio celloedd o’r enw ffibroblastau yn farcwyr procsi i bennu pa gleifion sy’n debygol o ailwaelu.

Mae’r clefyd yn dychwelyd o fewn pum mlynedd mewn tua 30% o ddynion sy’n cael llawdriniaeth ar gyfer canser cyfyngedig y brostad, ac nid oes gan glinigwyr ddulliau dibynadwy ar hyn o bryd i ragweld pa ddynion fydd yn dioddef yn sgil y canser yn dychwelyd. 

Er bod llawer o waith ymchwil wedi canolbwyntio ar y celloedd canser eu hunain, mae gan gelloedd anghanseraidd eraill yn y tiwmor rolau pwysig a gallent gynnig gwybodaeth glinigol bwysig.

Celloedd arbenigol yw ffibroblastau sy’n bresennol mewn llawer o rannau o’r corff, yn cynnwys y brostad, sy’n gweithio i roi strwythur i feinweoedd. Fodd bynnag, gall datblygiad canser achosi newidiadau i ffibroblastau lleol, gan eu hannog i gynnal tyfiant y tiwmor.

Yn astudiaeth Dr Helen Pearson, mae technegau delweddu manwl yn cael eu defnyddio i fesur cyfanswm a lleoliad ffibroblastau, a’r gwahanol fathau ohonynt mewn samplau llawfeddygol gan gleifion canser y brostad y gwnaeth eu canser ddychwelyd, neu ddim dychwelyd. 

Y gobaith yw y bydd patrymau penodol o ffibroblast yn gysylltiedig ag ailwaelu, ac o’r herwydd, gallent fod yn arwydd rhybudd cynnar i glinigwyr. Os yw’r gwaith hwn yn llwyddiannus, gallai arwain at brofion sy’n arwain penderfyniadau am ofal a thriniaeth ddilynol ar ôl llawdriniaeth.

Deall bioleg trwy fodelau realistig

Mae ail brosiect, sydd hefyd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, yn datblygu model labordy mwy realistig o diwmorau prostad. Y nod yw dynwared nodweddion biocemegol, mecanyddol ac imiwnolegol tiwmorau go iawn, er mwyn gallu profi triniaethau newydd mewn lleoliad sy’n adlewyrchu’n fwy cywir sut mae canserau’n ymddwyn mewn pobl.

Dan arweiniad Dr Oommen Oommen, mae’r tîm yn cynhyrchu modelau hydrogel 3D sy’n cyfuno celloedd canser y brostad sy’n deillio o gleifion gyda’r celloedd anghanseraidd eraill sy’n eu hamgylchynu yn nodweddiadol, fel celloedd imiwnedd a ffibroblastau, er mwyn ail-greu microamgylchedd y tiwmor naturiol.

Trwy gopïo’r “traws sgyrsiau” rhwng celloedd canser, celloedd imiwnedd a ffibroblastau, nod y modelau newydd yw dangos yn fwy cywir sut mae tiwmorau’n ymateb i therapïau - yn cynnwys pam mae rhai triniaethau’n gweithio yn y labordy ond nid wedi iddynt gael eu profi mewn cleifion. 

Dylai hyn wneud sgrinio cyffuriau cyn-glinigol yn fwy rhagfynegol a helpu blaenoriaethu triniaethau i barhau â nhw ar gyfer profion pellach a threialon clinigol yn y dyfodol.

O’u cymryd gyda’i gilydd, mae’r ddau brosiect hyn yn dangos dull trosiadol Ymchwil Canser Cymru, sef: deall y fioleg sy’n gyrru ymwrthedd ac achosion pan mae’r canser yn dychwelyd, a defnyddio’r wybodaeth honno i ddatblygu ffyrdd gwell o brofi a rhagweld ymatebion i driniaeth er mwyn i gleifion y dyfodol elwa. 

Mae’r ffocws ar fodelau tiwmor realistig ac ar fiofarcwyr y gellid eu defnyddio mewn patholeg arferol yn dangos sut gall ymchwil labordy symud tuag at effaith glinigol.