Symud at y prif gynnwys

Vintage 60 - ein gŵyl siopa haf

Dathlwch ein 60ain pen-blwydd mewn steil yn eich siop Ymchwil Canser Cymru leol 

Dathlwch 60 mlynedd o Ymchwil Canser Cymru'r haf hwn trwy ymweld ag un o'n siopau a chymryd rhan yn ein gŵyl Vintage 60 rhwng 26 Gorffennaf a 1 Awst.

Gallwch gymryd rhan yn Vintage 60 drwy siopa yn y sêl dillad vintage yn ein siop yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, neu gallwch chwarae tombola ym Mangor, Llandudno, Caernarfon, Rhiwbeina, Merthyr Tudful a Wrecsam.

Ennillwch hamper a disgownt o 60%

Fel rhan o'n 60ain pen-blwydd, yn Nhonysguboriau, gallwch ychwanegu 60c at eich pryniant, cymryd rhan mewn raffl i ennill hamper o nwyddau yn ein siop yn Abertawe neu gymryd rhan yn ein raffl pen-blwydd yng Nghastell Nedd.

Mae ein siop ym Merthyr Tudful yn cynnig disgownt o 60% yn ystod y pen-blwydd ar bob dilledyn rhwng 31 Gorffennaf a 1 Awst ac mae ein siop ym Mhenarth yn cynnal thema parti pop am yr wythnos gyda'i staff wedi gwisgo mewn dillad vintage.

Gemau â thema'r 60au a gwisg ffansi

Mae'r Coed Duon yn cynnal gemau â thema'r 60au ac yn mynd i gael arddangosfa ffenestr â thema'r 60au; mae Cilâ yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau dros yr wythnos gan gynnwys tombola tedi a chasglu arian.

Mae Cas-gwent yn cymryd rhan yn nathliadau'r pen-blwydd 60ain drwy gynnal amrywiaeth o weithgareddau dros y saith diwrnod gan gynnwys gwisg ffansi a sêl pen-blwydd arbennig.

Arddangosfa ffenestr a thocynnau raffl

Ewch draw i'n siop pop-up yn Trago Mills y tu allan i Ferthyr Tudful a chael 20% i ffwrdd ar eich pryniannau a mwynhewch ein harddangosfa ffenestr gyda themâu'r 60au.

Yn Wrecsam, ewch draw am ein gwerthiant cacennau a raffl ac edmygwch yr arddangosfa ffenestr a drefnwyd gan ein tîm talentog.

Bydd cwsmeriaid sy'n ymweld â siop Bangor fel rhan o ŵyl Vintage 60 yn cael tocyn raffl os byddan nhw'n gwario £10 neu fwy ac mae gostyngiad o 20% ar gael yn ystod yr wythnos.

Dathliadau pen-blwydd 60 ein siopau

Dywedodd Pennaeth Masnach Ymchwil Canser Cymru, Lorraine Boyd: "Ers 1966, mae Ymchwil Canser Cymru wedi bod yn ariannu ymchwil canser sy'n achub ac yn ymestyn bywyd yma yng Nghymru er budd pobl Cymru a Vintage 60 yw dathliad ein siopau o hynny.

"Yn ystod y 60 mlynedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi £41.86 miliwn i ymchwilio triniaethau newydd a gwell diagnosis canser ac rydym wedi gallu gwneud hynny diolch i gefnogaeth anhygoel pobl Cymru. Felly, dewch draw i'ch siop Ymchwil Canser Cymru agosaf, ymunwch â'r hwyl a'n dathliadau pen-blwydd 60, a helpwch ni i barhau i ariannu ein gwaith pwysig."

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd