Symud at y prif gynnwys

Ymchwil Canser Cymru yn Wythnos Cymru Llundain 2026: Gyrru Arloesedd yng Nghymru

Ymunwch ag Ymchwil Canser Cymru, Nathaniel Cars a MG ar gyfer digwyddiad arbennig yn ystod Wythnos Cymru Llundain 2026

Cofrestru ar gyfer Digwyddiad | Cancer Research Wales

Bydd y noson unigryw hon yn dathlu arloesedd Cymru, gan ddod ag arweinwyr o feysydd busnes a gwyddoniaeth at ei gilydd i drafod arloeson a chynnydd yn y sectorau hyn yn y dyfodol.

Rhwydweithio yn yr Ystafell Arddangos Ceir

Mae’r noson yn dechrau am 6.30pm ym Mhencadlys MG -139-151 Heol Marylebone, Llundain. Caiff ein gwesteion y cyfle i fwynhau awyrgylch ymlaciol gyda diodydd a chanapés, gan gynnig y cyfle perffaith i gymdeithasu a chysylltu â chyfranogwyr eraill.

Mi fydd cyfleoedd i gymryd taith wedi ei thywys o ystafell arddangos anhygoel MG yn ystod y noson. Bydd hwn yn gyfle i archwiliwo yr arloesi diweddaraf mewn technoleg EV a dylunio modurol.

Arloesedd Cymreig

Un o uchafbwyntiau’r noson fydd sgwrs a sesiwn holi ac ateb ar ddyfodol arloesedd Cymreig.

Bydd y panel siaradwyr yn cynnwys arloeswyr yn eu meysydd. Bydd Nathan Griffiths o Nathaniel Cars yn cynnig mewnwelediad i fyd busnes Cymru ac arloesedd modurol esblygol.

Mi fydd Peter Dunstan, Cyd-sylfaenydd CanSense yn ymuno gyda fo i rhannu ymchwil arloesol a rôl arloesedd yn y frwydr yn erbyn canser.

Clywn gan Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru am ei syniadau am rôl y trydydd sector wrth ddatblygu arloesedd i ddiwallu anghenion heriau’r dyfodol.

Arweinir y noson gan Sam Lloyd, Cyfarwyddwr Rheoli Lloyd Bell Productions, sydd wedi gweithio gyda amrywiaeth helaeth o gleientiaid rhyngwladol gan gynnwys Porsche a Chwaraeon Anableddau Cymru.

Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle unigryw i ymgysylltu â phobl allweddol o fyd diwydiant ac ymchwil yng Nghymru ac i godi ymwybyddiaeth am waith Ymchwil Canser Cymru, yr elusen ymchwil canser annibynnol Cymreig.