Agor Cynllun Grantiau Menter Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd 2025
Mae Ymchwil Canser Cymru yn falch iawn o wahodd ceisiadau ar gyfer ail alwad grant ein Menter Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd.
Dyddiad dechrau
31 Maw 2025
Statws
Ar Gau
Sefydlwyd Menter Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd Ymchwil Canser Cymru (BATRI) i adeiladu màs critigol o ymchwil i diwmorau'r ymennydd a'r system nerfol ganolog yng Nghymru.
Yn wahanol i lawer o fathau eraill o ganser, nid yw tiwmorau'r ymennydd wedi dangos llawer o welliant mewn canlyniadau yn ystod y degawdau diwethaf, ond fel arfer nid yw ymchwil wedi'i ariannu'n ddigonol. Mae angen gwirioneddol am yr ymchwil hwn er mwyn gallu gwneud cynnydd sylweddol wrth drin a gofalu am gleifion tiwmor yr ymennydd a'r system nerfol ganolog.
Bydd y BATRI yn ariannu ymchwil tiwmorau'r ymennydd ar draws 5 thema eang, sy'n ceisio dal ehangder y cyfleoedd ymchwil yn y maes hwn. Mae'r graffeg isod yn dangos y themâu, yn ogystal ag enghreifftiau o feysydd ymchwil posibl ynddynt (D.S. nid yw'r rhain yn gynhwysfawr).
Bydd Ymchwil Canser Cymru yn ystyried cynigion nad ydynt yn dod o dan y themâu hyn os ydynt yn berthnasol i ymchwil tiwmorau'r ymennydd. Os nad ydych yn siŵr a yw eich cynnig yn briodol, cysylltwch â'r Pennaeth Ymchwil, Dr Lee Campbell. (lee.campbell@cancerresearchwales.org.uk)

Am fwy o wybodaeth am alwadau grant Ymchwil Canser Cymru, gan gynnwys ein Cod Ymddygiad Ymchwil, gweler ein tudalen Gwybodaeth i Ymgeiswyr.
N.B. Croesewir ceisiadau am Gymrodoriaethau gan ymgeiswyr sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gymru ar hyn o bryd ond sy'n awyddus i adleoli i brifysgol yng Nghymru.
Rhaid i bob ymgeisydd fod â mentor academaidd, yn ogystal â chymeradwyaeth gan Bennaeth yr Ysgol o’r brifysgol Gymreig a fydd yn sefydliad lletyol iddynt.
I wneud cais, lawrlwythwch y ffurflen Mynegi Diddordeb isod a dychwelwch y ffurflen wedi'i chwblhau i grants@cancerresearchwales.org.uk.
Key Dates:
Dyddiad Cau Mynegi Diddordeb
Dydd Llun 12 Mai 2025
Gwahoddiad i Gyflwyno Cais Lawn
Dydd Gwener 30 Mai 2025
Dyddiad Cau Cais Lawn
Dydd Llun 21 Gorffennaf 2025