Symud at y prif gynnwys

Datblygu imiwnotherapiwteg newydd i drin lewcemia myeloid acíwt â mwtaniadau p53

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Caerdydd

Math o ymchwil

Triniaethau gwell

Math o ganser

Lewcemia

Nod y prosiect hwn yw gwella canlyniadau i gleifion yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis o lewcemia myeloid acíwt (AML), yn enwedig y rhai â mwtaniadau p53, sydd â chyfraddau goroesi gwael iawn ar hyn o bryd. Yn aml, mae triniaethau presennol yn methu neu mae cleifion yn atglafychu’n gyflym, gan adael y grŵp hwn ag angen clinigol brys sydd heb ei ddiwallu. Gallai datblygu therapïau newydd sy’n seiliedig ar imiwnedd fod o fudd uniongyrchol i gleifion yng Nghymru wrth ddarparu opsiynau effeithiol, y gellir eu cyflenwi’n lleol, cyn ymestyn y manteision i fannau eraill yn y DU.

Mae rhai therapïau imiwnedd wedi trawsnewid goroesiad mewn achosion eraill o ganserau’r gwaed, wrth adnabod proteinau ar arwyneb celloedd canser. Mewn achosion o AML, ceir llai o dargedau diogel hysbys, sy’n gwneud y dull hwn yn heriol. Yn y prosiect hwn, bydd yr ymchwilwyr yn mapio’r holl broteinau arwyneb ar gelloedd AML â mwtaniadau p53 sydd wedi’u cymryd o gleifion yng Nghymru, gan nodi’r targedau mwyaf addawol, a datblygu prototeipiau therapïau imiwnedd yn y labordy. Wrth gynnwys cleifion yng Nghymru’n gyntaf, bydd y prosiect hwn yn helpu cleifion lleol i gael mynediad yn gynt at driniaethau arloesol a allai achub bywydau. Yn y tymor hwy, mae’n cryfhau arloesedd dan arweiniad Cymru ym maes therapïau canser ac yn sicrhau bod cleifion lleol yn elwa gyntaf ar driniaethau arloesol.

Tîm sy'n cymryd rhan

Prof Alex Tonks

Prifysgol Caerdydd