Symud at y prif gynnwys

BiCCC – Atal ailwaelu mewn cleifion canser y coluddyn uchel eu risg yn dilyn llawdriniaeth

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Caerdydd

Math o ymchwil

Triniaethau gwell

Math o ganser

Y coluddyn

Mae canser y colon a’r rhefr, sydd hefyd yn cael ei alw’n ganser y coluddyn, yn cyfrif am fwy na 2000 diagnosis o ganser yng Nghymru bob blwyddyn. Yn aml, gall canser y coluddyn fynnu cymysgedd o driniaethau, fel llawdriniaeth, cemotherapi a radiotherapi, ond bydd tua chwarter o gleifion â chlefyd cam rhyngol yn ailwaelu ar ôl llawdriniaeth a bach iawn, os o gwbl, o ddulliau sydd i atal hyn. Un ateb posibl yw annog system imiwnedd y claf ei hun i ladd unrhyw gelloedd canser sy’n weddill ar ôl llawdriniaeth i atal y celloedd hyn rhag tyfu’n diwmor newydd.

Mae Ymchwil Canser Cymru’n ariannu treial clinigol o’r enw BiCCC (Ymyriad byr gyda Seicloffosffamid mewn Canser y Colon a’r Rhefr), sy’n ymchwilio i ddefnyddio cyffur seicloffosffamid i atal canser y coluddyn rhag ailwaelu. Mewn treial clinigol blaenorol a ariannwyd gan Ymchwil Canser Cymru, sef TaCTiCC, dangosodd tîm yr Athro Godkin y gallai dosys isel o seicloffosffamid gynyddu ymatebion imiwn gwrth-ganser. Fe wnaeth cleifion canser y coluddyn datblygedig oroesi’n hirach o ganlyniad ac, oherwydd bod ychydig neu ddim sgîl-effeithiau, roedd ansawdd eu bywyd yn well hefyd.

Yn nhreial BiCCC, bydd y tîm yn rhoi cwrs 4 wythnos o seicloffosffamid dos isel i gleifion canser y coluddyn cam rhyngol ar ôl eu llawdriniaeth a byddant yn cymharu nifer y cleifion sy’n ailwaelu â grŵp o gleifion sydd ddim yn cael y cyffur. Y disgwyl yw y bydd cyfraddau ailwaelu’r cleifion sy’n cael eu trin yn sylweddol is.

Er mwyn deall sut mae’r effaith hon yn digwydd yn well, bydd samplau gwaed yn cael eu cymryd o’r grŵp o gleifion sy’n cael eu trin â seicloffosffamid i ddadansoddi eu celloedd imiwn a gweld pa mor effeithiol y maen nhw o ran lladd celloedd canser.

Mae gan y treial hwn y potensial i roi dull newydd, diogel i gleifion canser yn y dyfodol o atal ailwaelu peryglus, gan ddiogelu ansawdd eu bywyd.

Tîm sy'n cymryd rhan

Yr Athro Andrew Godkin

Prifysgol Caerdydd