Symud at y prif gynnwys

Teithiau Diagnostig yng Nghanser y Brostad

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Canolfan Ymchwil Gynradd y Gogledd, Wrecsam

Math o ymchwil

Ymchwil Systemau Iechyd a Deilliannau Canser

Math o ganser

Y brostad

Mae canser y brostad yn fath cyffredin o ganser, gyda thros 3000 o ddynion yn cael diagnosis yng Nghymru bob blwyddyn. Yn anffodus, mae llawer o’r dynion hyn yn cael diagnosis o ganser y brostad cam hwyr – mae hyn yn cael ei achosi’n rhannol gan swildod dynion i fynd at eu meddyg teulu, gan ystyried yn aml bod eu symptomau’n rhan o heneiddio neu, yn syml, anwybyddu’r arwyddion rhybudd.

Trwy’r astudiaeth hon, sydd wedi’i hariannu trwy Ymchwil Canser Cymru, aeth yr Athro Clare Wilkinson a Dr Julian Hiscox ati i gofnodi, yn fanwl, brofiadau dynion â chanser y brostad, o’u symptomau cyntaf i gael eu gweld mewn gofal eilaidd, ynghyd â phrofiadau’r meddygon teulu a’r wrolegwyr a oedd yn gofalu amdanynt. Trwy gyfres o arolygon, cyfweliadau a grwpiau ffocws, nod y tîm oedd ymchwilio i brosesau meddwl a gweithredoedd cleifion a chlinigwyr er mwyn deall ble, a pham, y mae anghysondebau ym mhrofiadau cleifion. Nod yr astudiaeth oedd llywio penderfyniadau polisi a lledaenu gwybodaeth am arfer gorau ar draws Cymru, a wnaeth gynnwys cyfarfod â rhanddeiliaid i ledaenu’r canfyddiadau, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2021.

Tîm sy'n cymryd rhan

Yr Athro Clare Wilkinson

Canolfan Ymchwil Gynradd y Gogledd, Wrecsam