Symud at y prif gynnwys

Yr Athro Clare Wilkinson

Canolfan Ymchwil Gynradd y Gogledd, Wrecsam

Mae’r Athro Clare Wilkinson yn feddyg teulu sydd, ar hyn o bryd yn Athro Meddygaeth Deulu ym Mhrifysgol Bangor ac yn awdurdod blaenllaw ym maes ymchwil gofal sylfaenol. Mae’r Athro Wilkinson, a ymunodd â Phrifysgol Bangor yn wreiddiol yn 2004 fel Cyfarwyddwr Ymchwil yn Ysgol Glinigol Gogledd Cymru, wedi adeiladu corff trawiadol o ymchwil i ymyriadau gofal sylfaenol ac ymyriadau yn y gymuned i wella deilliannau cleifion. A chanddi hanes cryf o gyhoeddiadau a sicrhau grantiau, mae’r Athro Wilkinson yn arweinydd ar drawsnewid profiadau cleifion o ofal sylfaenol.

Prosiectau: WICKED/ThinkCancer
Teithiau Diagnostig mewn Canser y Brostad

Tudalennau sy'n cysylltu â Yr Athro Clare Wilkinson

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd