Symud at y prif gynnwys

Manteisio ar farwolaeth amlwg celloedd canser ar ôl colled ddeuol amddiffyniad pennau DNA a chyfyngiad niwcleasau

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Bangor

Math o ymchwil

Darganfod

Math o ganser

Yr Ofarïau

Mae’r prosiect hwn yn ymwneud ag ymchwil darganfyddiadau, a bydd yn cefnogi un o’r ymchwilwyr cyn-glinigol gorau yng Nghymru ac yn helpu i gadw gwyddonwyr dawnus yng Nghymru, sy’n broblem ar hyn o bryd.

Mae llawer o gleifion yn datblygu ymwrthedd i therapïau presennol, fel atalyddion PARP mewn canserau sy’n ddiffygiol o ran BRCA1, gan eu gadael â dewisiadau cyfyngedig. Gallai darganfod gwendidau newydd y gellir gweithredu arnynt mewn celloedd canser fod o fudd uniongyrchol i gleifion canser (a bydd cleifion yng Nghymru ymhlith y cyntaf i fanteisio) wrth ddarparu strategaethau i drin canserau sy’n gwrthsefyll therapi yn lleol ac yn fwy effeithiol. 

Mae celloedd yn atgyweirio difrod i DNA er mwyn goroesi, ond weithiau, mae celloedd canser yn dibynnu ar lwybrau atgyweirio gwan neu sydd wedi’u newid. Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi darganfod bod colli proteinau amddiffyn pennau DNA ar y cyd â chyfyngiad niwcleasau yn achosi marwolaeth celloedd canser. Wrth ddeall y gwendid hwn, eu nod yw datblygu triniaethau newydd sy’n manteisio arno, gyda’r posibilrwydd o ladd canserau nad ydynt bellach yn ymateb i therapïau safonol. Os byddant yn llwyddiannus, bydd y therapïau newydd hyn yn cael eu profi a’u hoptimeiddio gyda chleifion lleol yn gyntaf, gan roi mynediad at therapïau manwl gywir arloesol i gleifion yng Nghymru, a hynny’n gynt na phe bai’r ymchwil wedi’i chyllido yn rhywle arall.

Tîm sy'n cymryd rhan

Dr Chris Staples

Prifysgol Bangor