Symud at y prif gynnwys

Dr Chris Staples

Prifysgol Bangor

Mae Dr Chris Staples yn Uwch-ddarlithydd Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Bangor, gan arbenigo mewn dulliau atgyweirio DNA mewn canser. Ymunodd Dr Staples â Phrifysgol Bangor yn 2015 ac mae wedi adeiladu ei grŵp ymchwil, sy’n canolbwyntio ar sut mae celloedd canser yn atgyweirio ac yn amddiffyn eu DNA i wrthsefyll triniaethau, gyda’r nod yn y pen draw o ddylunio cyffuriau newydd i wrthsefyll y prosesau hyn. A chanddo brofiad darlithio ac ymchwil helaeth, mae Dr Staples yn flaenllaw yn y maes cyffrous hwn.

Prosiectau: Rheoleiddwyr newydd sefydlogrwydd genomau

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd