Symud at y prif gynnwys

Progyffuriau Niwcleotidau fel Triniaeth ar gyfer Lewcemia Myeloid Acíwt (AML)

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Caerdydd

Math o ymchwil

Triniaethau gwell

Math o ganser

Lewcemia

Nod y prosiect hwn yw gwella canlyniadau i gleifion yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis o lewcemia myeloid acíwt (AML), sef canser difrifol y gwaed y ceir nifer uchel o achosion ohono’n lleol. Mae llawer o gleifion yng Nghymru yn wynebu opsiynau cyfyngedig o ran triniaeth, yn enwedig pan nad yw therapi safonol gydag Azacitidine yn gweithio mwyach, gan adael grwpiau bregus, gan gynnwys oedolion hŷn, mewn mwy o berygl o oroesiad gwael. Gallai datblygu mathau newydd o Azacitidine sy’n parhau i fod yn effeithiol fod o fudd uniongyrchol i gleifion yng Nghymru wrth gynyddu llwyddiant triniaeth a lleihau marwolaethau. 

Mae’r prosiect hwn yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o brogyffuriau Azacitidine sy’n gallu trin AML sy’n gwrthsefyll Azacitidine. Gan fod y prosiect yn canolbwyntio ar Gymru, mae’n galluogi profi ac optimeiddio yn y boblogaeth leol, gan sicrhau hyfywedd clinigol o fewn seilwaith presennol GIG Cymru. Wrth leihau anghydraddoldebau mewn triniaeth a chynyddu cyfraddau goroesi ar gyfer cleifion AML yng Nghymru, mae’r prosiect yn alinio â blaenoriaethau Ymchwil Canser Cymru ac yn cryfhau ymchwil canser drosiadol dan arweiniad Cymru. 

I gleifion yng Nghymru, mae gan yr ymchwil hon y potensial i ddarparu triniaethau AML mwy effeithiol, gwella goroesiad, a lleihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau canser. Yn y tymor hwy, mae’n cefnogi arloesedd dan arweiniad Cymru mewn therapiwteg canser ac yn sicrhau bod cleifion lleol yn elwa’n gynnar ar ymchwil arloesol. 

Tîm sy'n cymryd rhan

Dr Youcef Mehellou

Prifysgol Caerdydd