Symud at y prif gynnwys

Optimeiddio atalyddion GATA2 newydd fel therapiwtegau wedi’u targedu ar gyfer lewcemia myeloid acíwt sy’n gwrthsefyll therapi

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Caerdydd

Math o ymchwil

Triniaethau gwell

Math o ganser

Lewcemia

Nod y prosiect hwn yw gwella canlyniadau i gleifion yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis o lewcemia myeloid acíwt (AML), sef canser y gwaed sy’n ymosodol ac sydd â chyfraddau goroesi gwael ac opsiynau cyfyngedig o ran triniaeth, yn enwedig pan ddaw’r clefyd yn wrthiannol i therapi. Er derbyn cemotherapi dwys, mae llawer o gleifion yn atglafychu oherwydd bod poblogaeth fach o fôn-gelloedd lewcemia yn goroesi’r driniaeth ac yn arwain at ailymddangosiad y clefyd. 

Bydd y prosiect hwn yn mynd i’r afael â’r prif achos hwn dros fethiant y driniaeth, wrth ddatblygu therapi wedi’i dargedu sydd y cyntaf yn ei ddosbarth, ac sydd wedi’i anelu at fôn-gelloedd lewcemia. Mae’r prosiect yn adeiladu ar ddarganfyddiadau a gyllidwyd gan Ymchwil Canser Cymru yn gysylltiedig ag atalyddion moleciwlaidd bach GATA2, sef protein sy’n cael ei or-fynegi’n annormal mewn lewcemia myeloid acíwt sy’n gwrthsefyll therapi, ac sy’n hanfodol ar gyfer parhad clefydau. Wrth optimeiddio’r cyfansoddion hyn a’u profi mewn samplau sy’n deillio o gleifion, bydd y prosiect yn anelu at gyflymu eu dilyniant tuag at ddatblygiad cyn-glinigol a’u trosi i ddefnydd clinigol yn y dyfodol. 

I gleifion yng Nghymru, mae’r ymchwil hon yn cynnig y potensial ar gyfer triniaethau mwy effeithiol, y gellir eu goddef yn well, cyfraddau atglafychu is, a goroesiad gwell. Yn y tymor hwy, mae’n cefnogi datblygiad therapïau canser arloesol, dan arweiniad Cymru, gan gryfhau arbenigedd ymchwil lleol, a chynyddu’r tebygolrwydd y bydd cleifion yng Nghymru yn elwa’n gynnar ar ddatblygiadau clinigol newydd. 

Tîm sy'n cymryd rhan

Dr Marcella Bassetto

Prifysgol Caerdydd

Dr Salvatore Ferla

Prifysgol Abertawe

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd