Symud at y prif gynnwys

Dr Helen Pearson

Prifysgol Caerdydd

Mae Dr Helen Pearson yn Uwch Ddarlithydd mewn Canser y Prostad yn Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae ymchwil Dr Pearson yn defnyddio bioleg foleciwlaidd a bioleg celloedd, gan gynnwys systemau modelau arloesol, i wella dealltwriaeth o dwf a datblygiad canser y prostad. Mae hi hefyd ynghlwm wrth dreialon cyn-glinigol i drosi astudiaethau labordy yn welliannau mewn canlyniadau cleifion.

Tudalennau sy'n cysylltu â Dr Helen Pearson

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd