Symud at y prif gynnwys

Dr Steve Man

Prifysgol Caerdydd

Mae Dr Steve Man yn arbenigwr ar imiwnoleg ddynol a rôl celloedd T mewn canser, gan weithio yn Is-adran Canser a Geneteg Prifysgol Caerdydd. Ymunodd Dr Man â Phrifysgol Caerdydd yn 2022 ac mae ei ymchwil wedi canolbwyntio ar ddeall rôl y system imiwnedd mewn nifer o ganserau, sef lewcemia a chanser y brostad yn bennaf, gyda’r nod o adnabod cleifion sydd â chlefyd mwy ymosodol a dod o hyd i dargedau therapiwtig newydd. Hefyd, mae gan Dr Man brofiad helaeth o addysgu ac ymgysylltu â’r cyhoedd, gan helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.

Prosiectau: Rôl celloedd CD4+ T yn CLL

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd