Symud at y prif gynnwys

Dr Ramsay McFarlane

Prifysgol Bangor

Mae Dr Ramsay McFarlane yn Uwch-ddarlithydd Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Bangor ac yn Gyfarwyddwr Ceridwen Oncology. Ar ôl ymuno â Phrifysgol Bangor ym 1998, sefydlodd Dr McFarlane ei grŵp ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, gan ymchwilio i ansefydlogrwydd genynnol celloedd canser a datgelu genynnau penodol i ganser i’w defnyddio mewn strategaethau diagnostig a therapiwtig newydd. A chanddo hanes cryf o gyhoeddiadau a chwmni deillio sy’n datblygu triniaethau canser newydd, mae Dr McFarlane yn datblygu ein dealltwriaeth o ganser a’i driniaeth.

Prosiectau: 

Ymchwilio i Antigen Canser Newydd TEX19
‘Brachyury’ yng nghanser y colon a’r rhefr