Symud at y prif gynnwys

Archwilio Antigen Canser Newydd TEX19

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Bangor

Math o ymchwil

Darganfod

Math o ganser

Y coluddyn, Yr ysgyfaint

O’r holl ganserau, canserau’r coluddyn a’r ysgyfaint sy’n gosod y baich mwyaf ar y GIG yng Nghymru. Mae angen clir am welliannau yn niagnosis a thriniaeth y canserau hyn, ynghyd â’r wybodaeth fanylach am y canser y mae ar glinigwyr ei hangen i lywio’u penderfyniadau.

Mae’r astudiaeth hon, sydd wedi’i hariannu gan Ymchwil Canser Cymru, yn archwilio protein TEX19; nid yw hwn yn cael ei ddarganfod fel arfer mewn meinweoedd iach, ond mae wedi cael ei gysylltu â chanser y coluddyn a chanser yr ysgyfaint. Mae’r tîm yn defnyddio dull tair ffrwd i ddeall pwysigrwydd TEX19:

1. Maen nhw’n defnyddio samplau o diwmorau i benderfynu a ellir canfod TEX19 mewn canser cam cynnar, i’w ddefnyddio fel prawf diagnostig.

2. Maen nhw’n ymchwilio p’un a all mesur lefel y TEX19 gael ei ddefnyddio fel prawf i wahaniaethu rhwng cleifion uchel eu risg ac isel eu risg.

3. Maen nhw’n asesu p’un a all cyffuriau sy’n targedu TEX19 fod yn ffordd newydd o drin canser.

Mae potensial gan yr astudiaeth hon i wella deilliannau i gleifion canser yr ysgyfaint a chanser y coluddyn yn sylweddol.

Tîm sy'n cymryd rhan

Dr Ramsay McFarlane

Prifysgol Bangor