Symud at y prif gynnwys

Defnyddio Nanoronynnau Swyddogaethol sy’n Achosi Ferroptosis i Dargedu Tiwmorau’r Ymennydd a Yrrir gan mTOR

BTRI Logo

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Caerdydd

Math o ymchwil

Triniaethau gwell

Math o ganser

Yr Ymennydd

Mae’r prosiect hwn yn mynd i’r afael ag angen brys sydd heb ei ddiwallu, wrth ddatblygu cyfrwng newydd ar gyfer cyflenwi nanoronynnau a gynlluniwyd i gludo therapïau wedi’u targedu’n uniongyrchol i mewn i diwmorau’r ymennydd, gan leihau sgil-effeithiau niweidiol ar yr un pryd i gleifion sy’n cael eu trin o fewn GIG Cymru.

Wrth gyfuno targedu tiwmorau penodol â ferroptosis, sef math o farwolaeth celloedd canser sydd newydd ei adnabod, nod yr ymchwil hon yw manteisio ar wendidau sy’n gyffredin mewn tiwmorau ymosodol yr ymennydd a yrrir gan mTOR. Bydd y gwaith yn llunio tystiolaeth gyn-glinigol yng Nghymru gan ddefnyddio therapïau newydd a ddarganfuwyd ac a ddatblygwyd yng Nghymru o fewn modelau organoid datblygedig o diwmorau’r ymennydd, a gymerwyd o gleifion yng Nghymru. Bydd hyn yn cryfhau galluedd cenedlaethol mewn nanofeddygaeth ac yn cyflymu’r gwaith o drosi ymchwil er budd cleifion, gyda chleifion Cymru yn y rheng flaen i fanteisio.

Yn hollbwysig, bydd arbenigedd a ddatblygir drwy’r prosiect hwn yn cael ei wreiddio yng Nghymru, gan adeiladu capasiti ymchwil hirdymor a chefnogi arloesedd clinigol yn y dyfodol o fewn GIG Cymru. Disgwylir i’r canfyddiadau fod o fudd i gleifion canser yr ymennydd yng Nghymru yn gyntaf, cyn llywio strategaethau triniaeth ehangach yn y DU a chyfrannu at ganlyniadau gwell yn genedlaethol. 

Tîm sy'n cymryd rhan

Yr Athro Andy Tee

Prifysgol Caerdydd