Symud at y prif gynnwys
  • Taith gerdded

13 June 2026

Sialens 3 Chopa y Fenni

Sign up for this event

Take your first step

£10.00

Cofrestru

Math o ddigwyddiad

Taith gerdded

Cost cofrestru

£10

Nawdd lleiaf

£150

Dyddiad

13 Mehefin 2026

Hoffech ymuno â #TîmYCC a herio Taith 3 Chopa y Fenni?

Dringwch yr Ysgyryd (486m), Mynydd Pen-y-fâl (596m) a’r Blorens (561m) wrth godi arian ar gyfer ymchwil canser o safon fyd-eang yng Nghymru ar gyfer Cymru.

Mae hwn yn daith caled i gerddwyr sydd wedi'u paratoi'n dda, ac yn gyfle gwerth chweil iawn i weld y tair copa eiconig o amgylch y Fenni i gyd mewn un diwrnod!

Byddwch yn cerdded o'r Fenni, yna i’r Ysgyryd, ymlaen i Fynydd Pen-y-fâl ac yn olaf y Blorens gan ddychwelyd i’r Fenni dan arweiniad ROC Adventure, gydag arbenigwyr mynydda cymwys.

Mae hwn yn sialens heriol dros dir amrywiol, weithiau’n serth – mae’n daith gerdded am ddiwrnod llawn sy’n addas i bobl â lefel dda o ffitrwydd.

Bydd seibiannau rheolaidd a chymorth ar gael mewn mannau penodedig.

Rhestr o offer

Er mwyn sicrhau diogelwch a chyfforddusrwydd, argymhellir i'r rhai sy’n cymryd rhan ddod â'r canlynol:

Eitemau hanfodol:

  • O leiaf 2 litr o ddŵr - bydd pwyntiau ail gyflennwi dŵr ar gael drwy gydol y digwyddiad. 
  • Digon o fwyd a byrbrydion egni uchel - bydd gorsafoedd byrbrydion ar gael, ond dylai'r cyfranogwyr ddod a bwyd egnïol eu hunain beth bynnag. 
  • Esgidiau cerdded cadarn gyda grip da a chefnogaeth ar gyfer eich ffer. · Siaced a throwsus gwrth-dŵr. · Haenau o ddillad addas ar gyfer tywydd newidiol. · Het a menig (haenau cynnes a/neu eli haul yn dibynnu ar y rhagolygon tywydd) 
  • Bag cefn (20–30L) · Ffôn symudol wedi ei bweru yn llawn (rydym yn argymhel banc pŵer) 
  • Cyflenwadau cyntaf cymorth personol gan gynnwys gofal ar gyfer chwsysigod (blisters) ac unrhyw feddyginiaethau personol sydd eu hangen.

Eitemau ychwanegol rydym yn eu hawgrymu:

  • Eli haul a sbectol haul
  • Ffyn cerdded
  • Bagiau sydd neu wrth-ddŵr ar gyfer eich offer
  • Mat ysgafn i’w eistedd arno
  • Sannau sbâr

Dyma beth sydd wedi ei gynnwys:

  • Arweinydd mynydd medrus iawn wedi eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf ar gyfer y daith
  • Rheolwr digwyddiadau o Ymchwil Canser Cymru a fydd yn brif bwynt cysylltu gyda chi
  • Diodydd a byrbrydau ar hyd y ffordd gan gerbyd cymorth
  • Ffotograffydd proffesiynol
  • Crys #TîmYCC

Dyma sydd heb ei gynnwys:

  • Eich taith i’r Fenni
  • Bwyd a diod ychwanegol
  • Dillad ac offer personol

Sut ydw i'n cofrestru?

Mae'r ffi cofrestru yn £10 ac mae hyn yn sicrhau eich lle ar y daith. Yr isafswm rydym yn ei ofyn gennych chi ei gasglu yw £150.

Yn fuan ar ôl cofrestru, bydd pecyn codi arian yn cael ei anfon atoch chi ac fe gewch enw cyswllt uniongyrchol yma yn Ymchwil Canser Cymru a fydd yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd i gyrraedd eich targed codi arian.

Digwyddiadau eraill yr hoffech chi