Noson i’w thrysori gyda Ymchwil Canser Cymru
Sign up for this event
Math o ddigwyddiad
Ymwybyddiaeth
Amser cychwyn (Caerdydd)
19:00yh
Amser cychwyn (Gorllewin Cymru)
19:30yb
Ymunwch a ni am noson fythgofiadwy'r mis Tachwedd hwn a chymryd amser i drysori anwyliaid sydd wedi ei heffeithio gan ganser
Dewch i fwynhau noson gyda Ymchwil Canser Cymru a'n gwesteion cerddorol gwych am noson i'w thrysori yn un ai'r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama yng Nghaerdydd neu Rhosygilwen yn Sir Benfro.
Mi fydd y cyflwynydd teledu a radio - Mari Grug (S4C a BBC Radio Cymru), yn arwain y ddwy noson.
Rydym yn falch iawn o groesawu detholiad o artistiaid a pherfformwyr Cymreig gwych, corau a cherddorion, a fydd yn caniatáu i ni gymryd ychydig o amser i werthfawrogi ein hanwyliaid gyda diolch a charedigrwydd.