Symud at y prif gynnwys
  • Marathon
  • Ras
  • Hanner Marathon

Rhedwch gyda realbuzz ar gyfer Ymchwil Canser Cymru

Math o ddigwyddiad

Marathon

Rydyn ni wedi ymuno â realbuzz i roi'r dewis i'n cefnogwyr gymryd rhan yn rhai o ddigwyddiadau enwocaf y byd

Ymhlith y rasys mae Rasys 10K, Hanner Marathonau a Marathonau Llawn; neu os ydych chi am redeg gyda thîm, beth am Ras Gyfnewid? Os dewiswch chi Athen, Chicago, Dulyn neu Baris, neu un o'r llu o rai eraill, byddwch yn cefnogi ein gwaith fel elusen ymchwil canser yng Nghymru.

Sut mae’n gweithio:

  • Dewiswch o'r rhestr ddigwyddiadau: Find A Charity Running Event | Global Marathons & Half Marathons
  • Dewiswch yr opsiwn o redeg gyda realbuzz ar gyfer YMCHWIL CANSER CYMRU
  • Talwch eich blaendal i gadw eich lle
  • Byddwn ni’n talu’r ffi gofrestru unwaith y byddwch chi wedi codi canran benodol o arian yn ystod eich ymgyrch codi arian
  • Byddwn yn eich cefnogi gyda'ch ymgyrch codi arian, ac yn ateb unrhyw gwestiynau ynglŷn â hyfforddi
  • Unwaith y byddwch chi’n codi eich £50 cyntaf, byddwn yn anfon eich top rhedeg atoch


Yn fuan ar ôl cofrestru, cewch gyswllt pwrpasol yma yn Ymchwil Canser Cymru i’ch cefnogi bob cam o’r daith gyffrous hon.

Bydd mynediad i’r ras hefyd yn cynnwys:

  • Pecyn codi arian pwrpasol
  • Diweddariadau rheolaidd am y digwyddiad
  • Cefnogaeth gan ein Grŵp Facebook, Clwb Rhedeg
  • Gwybodaeth am Ymchwil Canser Cymru a’n prosiectau ymchwil diweddaraf
  • Crys T rhedeg Ymchwil Canser Cymru (pan fyddwch wedi cyrraedd £50 o’ch targed codi arian)

Digwyddiadau eraill yr hoffech chi