Symud at y prif gynnwys
  • Ras
  • Ultra Marathon

17 April 2027

SheUltra 2027

Sign up for this event

Math o ddigwyddiad

Ras

Isafswm codi arian

£250

Llinell gychwyn

Traeth Prif Abersoch

Llinell derfyn

Canol Maes Pwllheli

Lle mae gobaith, cryfder a chymuned yn dod ynghyd. Heb amser cau – dim ond gwên.

Cymerwch ran ar eich cyflymder eich hun, heb amser cau, mewn uwthmarathon 50km ar ddydd Sadwrn, 17 Ebrill 2027, gyda'r cwrs yn cychwyn ar y traeth yn Abersoch ac yn gorffen yn Y Maes, Pwllheli.

Penwythnos o ddathlu

Bydd y digwyddiad yn dechrau gydag agoriad ar ffurf gŵyl, gan gynnwys gorymdaith o amgylch y dref. Drwy gydol y penwythnos bydd awyrgylch bywiog gyda cherddoriaeth fyw, bandiau a llwyfan gŵyl canolog.

Profiad y llinell derfyn

Bydd pob menyw yn cael croesi'r llinell derfyn ar garped coch, gan fwynhau profiad VIP ar steil y Gemau Olympaidd. Er mwyn anrhydeddu'r daith, bydd pob cyfranogwraig yn derbyn ei medal ar y llinell gychwyn – yn symbol o'r rhai rydym wedi'u colli i ganser a'r rhai sy'n dal i ymladd.

Eich diogelwch a'ch cefnogaeth

Bydd mannau diogel ar gael, ynghyd â mesurau ychwanegol i sicrhau amgylchedd diogel, croesawgar a chefnogol i bob cyfranogwraig drwy gydol yr uwthmarathon.

Digwyddiadau eraill yr hoffech chi

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd