Cyngherddau bythgofiadwy Ymchwil Canser Cymru i’ch dyddiadur
Nosweithiau cerddoriaeth a stand-yp
Mae gennym ddigwyddiadau adloniant gwych yn dod yn fuan na fyddwch chi eisiau eu colli.
Trysori’r rheini rydym yn eu caru
Yn dilyn llwyddiant ein digwyddiad y llynedd, rydym nawr yn brysur yn trefnu nid un, ond dau gyngerdd Trysori yng Nghaerdydd a Sir Benfro.
Mae Trysori yn noson gerddorol i gofio’r rhai ydym yn eu caru sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser wrth gefnogi Ymchwil Canser Cymru.
Mae’r cyngerdd yng Nghaerdydd yn digwydd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am 7.00pm ar ddydd Gwener 21 Tachwedd.
Yn Sir Benfro, mae’r cyngerdd Trysori yn cymryd lle yn Rhosygilwen yng Nghilgerran am 7.30pm ar ddydd Gwener 19 Chwefror 2027.
Rydym hefyd yn teimlo’n lwcus ac yn falch o gyhoeddi y bydd ein llysgennad anhygoel, Mari Grug, yn cyflwyno’r ddwy noson.
Comedi stand-yp
Ac mae’n fraint gennym gyhoeddi gig comedi codi arian cyntaf Ymchwil Canser Cymru o dan arweiniad y comedïwr stand-yp Cymreig, y rhyfeddol Robin Morgan.
Mae Robin wedi ymddangos ar y rhaglenni comedi Mock the Week a The News Quiz ar BBC Radio 4, yn ogystal â chyd-gyflwyno podlediad For Wales, See Wales.
Rydym yn gyffrous hefyd i gyhoeddi mai’r act gyntaf wedi’i chadarnhau i ymddangos ar y bil ochr yn ochr â Robin yw’r comedïwraig, awdur a darlledwr Cymreig rhyfeddol, Kiri Pritchard-McLean.
Mae Robin Morgan & Friends yn digwydd yn Theatr Richard Burton yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar ddydd Sul 15 Tachwedd am 6.00yp, ac mae’n addas i bobl 14 oed a hŷn.
Cefnogwch ein gwaith sydd yn achub bywydau
“Roedd digwyddiad Trysori’r llynedd yn llwyddiant mawr gyda pherfformiadau gan artistiaid gan gynnwys Bronwen Lewis, côr Ysgol Gynradd Rhydypenau, Côrdydd a Lucy Clarke, ac wrth gwrs, yr anhygoel Mari Grug,” meddai Lisa Buckley, Pennaeth Cynhyrchu Incwm Ymchwil Canser Cymru.
“Rydym yn trefnu artistiaid cyffrous ar gyfer y digwyddiadau yng Nghaerdydd a Sir Benfro a byddwn yn cyhoeddi enwau’r perfformwyr fydd yn ymddangos yn fuan, felly prynwch eich tocynnau cyn bo hir a helpwch i gefnogi ein gwaith sydd yn achub bywydau,” ychwanegodd Lisa.
Mae chwerthin mor bwysig
“Mae cynnal noson gomedi er mwyn codi arian yn faes newydd i Ymchwil Canser Cymru ac mae chwerthin yn rhan mor bwysig o fywyd, yn enwedig pan rydym yn wynebu amseroedd heriol, felly rwy’n falch iawn ein bod yn trefnu’r gig hon.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Robin am gytuno i arwain ac ymddangos yn ein gig comedi stand-yp gyntaf erioed, ac am iddo gael rhai o’i ffrindiau o’r byd comedi, gan gynnwys y rhyfeddol Kiri Pritchard-McLean, i berfformio hefyd,” ychwanegodd Lisa.
“Bydd hi’n noson i’w chofio, felly sicrhewch eich bod yn cael eich tocynnau heddiw ar gyfer un o’r nosweithiau comedi gorau a welwch eleni wrth gefnogi ymchwil canser yng Nghymru,” gorffennodd Lisa Buckley.