Symud at y prif gynnwys

Grantiau Arloesi 2025

Mae Ymchwil Canser Cymru yn gwahodd cynnigion ariannu ar gyfer prosiectau arloesol o fewn Cymru. Gall y prosiectau hyn ddigwydd ym mhob maes cysylltiedig â chanser ac nid ydynt wedi'u cyfyngu i unrhyw fath penodol o ganser.

Dyddiad dechrau

27 Mai 2025

Statws

Ar Gau

Ariannu

£40,000

Mae Grantiau Arloesi Ymchwil Canser Cymru yn ymwneud â chefnogi astudiaethau peilot neu rai sydd yn profi syniadau newydd o fewn meysydd ymchwil canser sylfaenol, trosglwyddol neu glinigol. Ni ddylai grantiau llwyddiannus fel arfer fod dros £40,000 ac maent yn cael eu disgwyl i gynhyrchu canlyniadau fydd yn cyfrannu at geisiadau grant pellach.

Ni ddylai cyllid dan y cynllun hwn ymestyn prosiectau sydd eisoes yn bodoli.

Dylai'r cynnig gyd-fynd â'n Strategaeth Ymchwil sy'n cynnwys pedair thema eang:

  • Darganfod ac Ymchwil Drosiadol
  • Sgrinio, Atal a Diagnosis Cynnar
  • Gwell triniaethau
  • Ymchwil Systemau Iechyd a Chanlyniadau

Os nad ydych chi’n siŵr a yw eich cynnig yn addas, cysylltwch â'n Pennaeth Ymchwil, Dr Lee Campbell, drwy e-bost: lee.campbell@cancerresearchwales.org.uk

I gael rhagor o wybodaeth am alwadau grant Ymchwil Canser Cymru, gan gynnwys ein Cod Ymddygiad Ymchwil, gweler ein tudalen Gwybodaeth i Ymgeiswyr.

I wneud cais, lawrlwythwch y ffurflen Mynegi Diddordeb isod a dychwelwch y ffurflen wedi'i chwblhau at grants@cancerresearchwales.org.uk

Dyddiadau Allweddol

Dyddiad Cau Mynegi Diddordeb

7 Gorffennaf 2025

Gwahoddiad i Gyflwyno Cais Llawn

25 Gorffennaf 2025

Dyddiad Cau am Geisiadau

6 Hydref 2025

Mae Ymchwil Canser Cymru yn cadw'r hawl i ddiwygio'r dyddiadau hyn lle bo'n angenrheidiol.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd