Symud at y prif gynnwys

Yr Athro Andrew Godkin

Prifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Andrew Godkin yn gastroenterolegydd ymgynghorol ac yn arbenigwr blaenllaw ar imiwnotherapi a chanser y coluddyn. Ers symud i Gaerdydd yn 2001, mae’r Athro Godkin wedi sefydlu grŵp ymchwil mawr sy’n canolbwyntio ar ddeall rôl y system imiwnedd mewn canser a sut gall gael ei fanipwileiddio. A chanddo hanes cryf o ymchwil, gan gynnwys arwain nifer o dreialon clinigol, a chwmni deillio imiwnotherapi, mae’r Athro Godkin ar flaen y gad wrth gyflwyno opsiynau triniaeth newydd i gleifion canser.

Prosiectau: Imiwnogenedd canser y colon a’r rhefr
BiCCC – Atal ac oedi ailwaelu mewn cleifion canser y coluddyn uchel eu risg yn dilyn triniaeth