Symud at y prif gynnwys
  • Adrenalin

Zip World

Sign up for this event

Math o ddigwyddiad

Adrenalin

A ydych chi erioed wedi breuddwydio am hedfan drwy’r awyr ar wifren wib? Dyma’ch cyfle, ac ar yr un pryd, byddwch chi’n helpu i drawsnewid bywydau pobl ledled Cymru sy’n byw gyda chanser.

  • Math o ddigwyddiad: adrenalin
  • Blaendal cofrestru: o £10
  • Codi arian: o £100

Gallwch gymryd llinell wib gyflymaf y byd a’r un hiraf yn y Deyrnas Unedig (sef Cyflymder), a byddwch chi hefyd yn cefnogi ein prosiectau ymchwil o’r radd flaenaf sy’n rhoi gobaith am ddyfodol gwell i bobl ledled Cymru.

Mae’n falch gennym bartneru â Zip World i gynnig amrywiaeth o heriau cyffrous, gan roi’r cyfle i chi brofi antur anhygoel wrth godi arian ar gyfer Ymchwil Canser Cymru a helpu i ariannu ymchwil canser hanfodol.

Gallwch ddewis rhwng heriau llinellau gwib Cyflymder yn Chwarel Penrhyn a Titan yn Chwarel Llechwedd yng Ngogledd Cymru, neu Stadium Flyer a Stadium Drop yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn Ne Cymru. Bydd angen i bob cyfranogwr ymrwymo i godi isafswm nawdd (gweler y manylion wrth archebu).

Yn fuan ar ôl cofrestru ar gyfer eich lle gyda blaendal, byddwch yn derbyn pecyn codi arian, a bydd Zip World yn cysylltu â chi i gadarnhau dyddiad eich her.

Bydd gennych gyswllt uniongyrchol yma yn Ymchwil Canser Cymru a fydd yn eich cynorthwyo ar bob cam o’r daith gyffrous hon. Bydd yr arian a godwch yn ein helpu i fynd cam yn nes at ein gweledigaeth o Gymru unedig yn erbyn canser trwy ymchwil o’r radd flaenaf.

Opsiynau cofrestru ac archebu

  • Cyflymder yn Chwarel Penrhyn, Gogledd Cymru. Cofrestru £25, isafswm nawdd £180.
  • Titan yn Chwarel Llechwedd, Gogledd Cymru. Cofrestru £25, isafswm nawdd £100.
  • Stadium Flyer yn Stadiwm Principality, Caerdydd, De Cymru. Cofrestru £10, isafswm nawdd £75.
  • Stadium Drop yn Stadiwm Principality, Caerdydd, De Cymru. Cofrestru £10, isafswm nawdd £75.

Pryd galla’ i wneud hyn?

Gallwch drefnu unrhyw ddyddiad sy’n gyfleus i chi (yn amodol ar argaeledd) ac mae croeso mawr i chi archebu fel grŵp. Mae Cyflymder a Titan yn cynnig opsiwn i hyd at bedwar person ymgymryd â her ar yr un pryd.

Trefnwch eich antur yn fuan, fel y bydd gennych rywbeth epig i edrych ymlaen ato. Rhowch y dyddiad yn y dyddiadur, casglwch eich criw, a dechreuwch gyfrif i lawr. Po gynharaf y byddwch chi’n archebu, y mwyaf o amser sydd gennych i godi arian. Gwych!

Sut brofiad yw e?

Cyflymder

Hedfanwch ar gyflymder o hyd at 100mya+ ar linell wib gyflymaf y byd yn Zip World Chwarel Penrhyn yng Ngogledd Cymru. Mae’r antur gwifren wib ddiguro hon yn cyfuno adrenalin, golygfeydd godidog, a threftadaeth gyfoethog Cymru. Teithiwch ychydig dros filltir o’r dechrau i’r diwedd ar hyd y wifren wib fawr.

Titan

Nid dim ond un, ond dwy linell wib i’w concro; Bravo a Charlie. Hedfanwch ar eich eistedd uwchben chwarel enwog Llechwedd ar yr antur llinell wib gyffrous hon. Mwynhewch olygfeydd a synau Eryri wrth i chi deimlo rhyddid hedfan, gan gyrraedd cyflymder gwefreiddiol o hyd at 60mya+.

Stadium Flyer

Dringwch dros 200 o risiau i gyrraedd canopi’r to. Hedfanwch ar draws canopi to eiconig y stadiwm ar hyd llinell wib 170m o hyd, gan gyrraedd cyflymder o hyd at 27mya wrth i chi fwynhau golygfeydd uchel dros brifddinas Cymru.

Stadium Drop

Dringwch dros 200 o risiau i gyrraedd canopi’r to. Wedi’ch amgylchynu gan olygfeydd a synau Stadiwm y Principality a dinas Caerdydd y tu hwnt, dechreuwch eich profiad gollwng o’r platfform gwylio syfrdanol wrth abseilio 30m i lawr ochr yr adeilad eiconig hwn.

Pwyntiau i’w cofio

  • Mae ein holl gyllid ymchwil canser yn cael ei wario yma yng Nghymru, gan ariannu ymchwil canser hanfodol ers 1966.
  • Caiff yr heriau Llinell Wib ac Abseilio eu cyflawni ar y diwrnod.
  • Cyflymder a Titan: caiff harnais, gogls a helmed eu gosod, dan arweiniad hyfforddwr, a fydd yn rhoi briff diogelwch hollbwysig. Bydd eich harnais yn cael ei wirio ddwywaith gan hyfforddwr profiadol bob amser.
  • Stadium Flyer a Stadium Drop: byddwch chi’n cael eich gwisgo mewn harnais corff llawn, a fydd yn offer diogelwch i chi ar gyfer Stadium Drop a Stadium Flyer. Bydd eich tywysydd yn eich arwain drwy gydol y profiad. Bydd eich harnais yn cael ei wirio ddwywaith gan hyfforddwr profiadol bob amser.

Cyn archebu’r antur hon, darllenwch y cyfyngiadau canlynol yn ofalus er mwyn sicrhau eich bod chi a’ch grŵp yn bodloni’r gofynion sylfaenol ar gyfer cymryd rhan.

  • Rhaid i unrhyw gyfranogwr o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed neu hŷn, ac yn y rhan fwyaf o achosion, rhaid i oedolyn gymryd rhan yn y grŵp.
  • Stadium Flyer a Stadium Drop: oherwydd natur yr antur hon, rhaid i bawb allu cerdded a bod yn gorfforol ffit.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â ni a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu yn ôl â chi.

Digwyddiadau eraill yr hoffech chi

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd