Pam mai mis Ionawr yw'r amser perffaith i gofrestru ar gyfer Ras Elusennol
"Ionawr yw'r amser perffaith i ymrwymo i rywbeth sy'n rhoi ychydig mwy o bwrpas i'ch rhedeg", meddai Megan Jackson ein Swyddog Diwgyddiadau
Ydy stori Megan wedi ei hysbrydoli i redeg i Ymchwil Canser Cymru?
Os felly, edrychwch ar ein hamrywiaeth o ddigwyddiadau rhedeg!
Ein Digwyddiadau
Ymunais i â’r elusen yn ôl ym mis Chwefror fel Swyddog Digwyddiadau ar gyfer Digwyddiadau Rhedeg, ac yn ystod fy wythnos gyntaf roeddwn i allan ar y cwrs yn Ras Dydd Gŵyl Dewi gyda Nic.
Dyma’r digwyddiad cyntaf i mi weithio arno, ac wrth sefyll ar y llinell derfyn, yn gwylio rhedwyr yn croesi gyda gwên, rhyddhad, a dagrau hapus weithiau, roeddwn i’n gwybod fy mod i yn y lle iawn.
Ers hynny, dwi wedi bod yn ddigon ffodus i fod yn rhan o rai digwyddiadau anhygoel - Hanner Marathon Abertawe, sefydlu Gŵyl Marathon Casnewydd, Hanner Marathon Caerdydd, a ras 10K Ynys y Barri.Mae pob digwyddiad yn wahanol, ond dydy un peth byth yn newid: yr awyrgylch sy’n cael ei greu gan bobl sy'n dewis rhedeg am rywbeth yn fwy na nhw eu hunain.
Fy nhaith rhedeg
Y tu allan i'r gwaith, dwi'n aelod o glwb rhedeg lleol yma yn Ne Cymru, a dwi wedi bod yn rhedeg ers dros 10 mlynedd. Fe ddechreuais i redeg yn oedolyn oherwydd fy nhad, ac mae wedi bod yn rhan o’ mywyd byth ers hynny.
Pan redais i fy hanner marathon cyntaf yn ôl yn 2018, fe orffennais i mewn tair awr. Doedd hynny ddim yn gyflym ond roedd yn gamp bersonol enfawr. Gyda chysondeb, amynedd, a llawer o waith caled, dwi wedi dod â'r amser hwnnw i lawr i ychydig llai na dwy awr (1:59:57 a bod yn fanwl gywir!).
Cymerodd chwe blynedd ond roedd yn hollol werth chweil, nid yn unig o ran y cynnydd ond y bobl dwi wedi cyfarfod â nhw ar hyd y ffordd.
Mae rhedeg wedi fy helpu i feithrin cyfeillgarwch, dod yn rhan o gymuned, a threulio mwy o amser yn yr awyr agored. Mae wedi bod yn gymorth enfawr i’m hiechyd meddwl, gan ddarparu lle i glirio fy mhen, herio fy hun, a theimlo cysylltiad â phobl eraill.
Dwi wedi cymryd rhan mewn rasys traws gwlad, rasys ffordd, a heriau cyflymder, ond fy ffefryn o bell ffordd yw rhedeg llwybrau.
Dwi wrth fy modd â'r ymdeimlad o archwilio a datrys problemau sy'n cyd-fynd ag ef, gweithio allan ble i osod eich traed, sut i barhau i symud ymlaen heb syrthio i’r mwd. Mae'r her honno’n rhan o'r hyn sy'n cadw rhedeg yn gyffrous.
Buddion rhedeg
Mae rhedeg yn cynnig cymaint mwy na dim ond medal ar y llinell derfyn. Mae'n un o'r ffyrdd symlaf o ofalu am eich iechyd corfforol a meddyliol.Gall rhedeg rheolaidd helpu i wella ffitrwydd, magu hyder, a chreu trefn - rhywbeth a all fod yn arbennig o werthfawr ar ddechrau blwyddyn newydd.
I lawer o bobl, mae rhedeg yn dod yn rhywbeth sy’n lleddfu straen ac yn gyfle i anghofio am bwysau bob dydd. P'un a yw'n rhediad byr cyn y gwaith neu rediad hirach ar y penwythnos, gall yr amser hwnnw yn yr awyr agored wneud gwahaniaeth gwirioneddol i sut rydych chi'n teimlo.
Mae rhedeg hefyd yn creu cyfleoedd i gysylltu ag eraill, boed hynny trwy glybiau lleol, digwyddiadau, neu’n syml rhannu'r daith gyda phobl o'r un anian â chi.
Rhoi yn ôl trwy redeg
Dros amser, mae rhedeg hefyd wedi rhoi cyfle i mi roi yn ôl. Dwi'n gyfarwyddwr rasys ar gyfer rasys yn fy nghlwb rhedeg lleol, gan helpu i drefnu a chyflwyno digwyddiadau sy'n dod â rhedwyr at ei gilydd.
Mae gweld digwyddiadau o'r ddwy ochr - fel rhedwr ac fel rhywun sy'n rhan o’r cyflwyno - wedi rhoi gwerthfawrogiad gwirioneddol i mi o ba mor bwerus y gall digwyddiadau croesawgar, sy’n cael eu cynnal yn dda, fod.
Wrth edrych at y dyfodol, dwi wedi gosod her newydd i mi fy hun ar gyfer 2026: dod yn Arweinydd mewn Ffitrwydd Rhedeg.
Mae'n teimlo fel cam nesaf naturiol mewn taith a ddechreuodd gyda rhoi un droed o flaen y llall, ac mae'n rhywbeth dwi'n gyffrous iawn amdano. I mi, mae'n fy atgoffa nad yw rhedeg yn ymwneud ag amseroedd rasio yn unig - mae'n ymwneud â thwf, hyder, a chefnogi eraill ar hyd y ffordd.
Pam mae rhedeg i elusen yn gwneud gwahaniaeth
Dwi wedi cwblhau Hanner Marathon Caerdydd tair gwaith, a phob tro roeddwn i'n rhedeg dros elusen wahanol. Mae cael achos i redeg drosto yn ychwanegu rhywbeth ychwanegol.
Mae'n rhoi mwy o ystyr i'r rhediadau hyfforddi hir hynny ac yn eich helpu i wthio trwy'r eiliadau anodd ar ddiwrnod y ras, yn enwedig pan fydd cymhelliant yn dechrau pylu.
Mae'r teimlad hwnnw'n rhywbeth dwi'n ei weld yn cael ei adlewyrchu yn ein rhedwyr elusennol ym mhob digwyddiad.
O’r bobl hynny sy'n rhedeg eu ras 5K gyntaf, i redwyr profiadol sy'n mynd ar drywydd nod newydd, mae pawb â'u rheswm eu hunain dros fod ar y llinell gychwyn, ac mae pob un o'r rhesymau hynny'n bwysig.
Gwnewch hon y flwyddyn y byddwch chi'n cofrestru
Os ydych chi'n chwilio am gymhelliant ym mis Ionawr, gallai cofrestru ar gyfer ras elusennol fod yn union yr hyn sydd ei angen arnoch chi.
Byddwch yn profi bwrlwm diwrnod y ras a chefnogaeth cymuned wych, gan wybod bod eich rhediad chi yn helpu i newid bywydau.
Ac os nad yw rhedeg at eich dant chi, mae gan Ymchwil Canser Cymru ddigon o ffyrdd eraill i gymryd rhan.
O'n her nofio newydd sbon, Dip neu Bellter, i'n digwyddiadau heicio ar draws tri chopa’r Fenni, mae rhywbeth i bawb. P'un ai dyma fydd eich digwyddiad cyntaf neu eich pymthegfed, byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi ar y llinell gychwyn eleni.