Pen-blwydd Ymchwil Canser Cymru yn 60
Mae Ymchwil Canser Cymru yn 60 mlwydd oed eleni
Rydym wedi dod yn bell ers sefydlu’r elusen yng Nghaerdydd yn 1966, fel Cyngor Ymchwil Canser De Cymru.
Ni yw’r elusen ymchwil canser annibynnol Gymreig – nid ydym yn gysylltiedig ag unrhyw elusennau ymchwil canser eraill, a rydym wedi buddsoddi dros £39 miliwn i wthio ffiniau ymchwil canser yma yng Nghymru dros y chwe degawd diwethaf.
Mae ein gwaith arloesol wedi dod â gobaith i bobl sydd wedi eu heffeithio gan ganser yng Nghymru – eu teuluoedd, ffrindiau a'r rhai annwyl iddynt am 60 mlynedd bellach.
Gwario ein holl arian ymchwil yma yng Nghymru
Dim ond canran fach iawn o roddion a roir i achos ymchwil canser cyffredinol yn y DU sydd yn cael eu defnyddio yma yng Nghymru, ond mae holl arian ymchwil Ymchwil Canser Cymru yn cael ei wario yma yng Nghymru.
Rydym yn ariannu ymchwil o safon ryngwladol i ganser yng Nghymru fel nad yw pobl Cymru yn cael eu gadael ar ôl - heddiw ac yfory.
Trwy ein gwaith arloesol, rydym yn creu cyfleoedd i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser yng Nghymru gael mynediad at y treialon canser, triniaethau, diagnosteg a llwybrau diweddaraf.
Rydym hefyd yn datblygu arbenigedd ymchwil canser yng Nghymru drwy ariannu gwyddonwyr ymchwil canser yn ogystal â meithrin y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr trwy ein rhaglenni PhD.
Cefnogaeth pobl Cymru
Diolch yn unig i gefnogaeth pobl Cymru y bu’n bosibl i ni wneud y gwaith pwysig hwn dros y 60 mlynedd diwethaf ac rydym dal angen eich cefnogaeth.
Mae nifer o ffyrdd y gallwch gefnogi ein gwaith sy’n ymestyn ac achub bywydau – pam na wnewch chi gofrestru i ymuno â un o’n digwyddiadau codi arian? Gallwch adael rhodd i ni yn eich Ewyllys neu roi rhodd i ni ar-lein.
Gallwch hefyd siopa yn un o’n siopau stryd fawr, roi eich nwyddau o ansawdd nad ydych yn eu defnyddio neu wirfoddoli yn un o’n siopau.
Cadwch lygad ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol am newyddion cyffrous a diweddariadau dros y 12 mis nesaf – pam na wnewch gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr e-bost?