Symud at y prif gynnwys

Defnyddio firysau oncolytig sy’n targedu stroma ac yn ysgogi imiwnedd i oresgyn y rhwystrau rhag triniaeth PDAC effeithiol

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Caerdydd

Math o ymchwil

Triniaethau gwell

Math o ganser

Y pancreas

Mae gan ganser y pancreas un o’r cyfraddau goroesi gwaethaf ymhlith pob math o ganser, ac mae canlyniadau i gleifion yng Nghymru yn parhau i fod yn arbennig o heriol oherwydd bod opsiynau triniaeth effeithiol yn gyfyngedig. Nod y prosiect yw mynd i’r afael â’r angen brys hwn sydd heb ei ddiwallu, wrth ddatblygu therapïau “feirws clyfar” a gaiff eu targedu’n fanwl iawn, sydd wedi’u cynllunio i weithio yn erbyn y rhwystrau biolegol allweddol sy’n gwneud canser y pancreas mor wrthiannol i driniaeth.

Gan fanteisio ar y ffaith bod dros 90% o diwmorau pancreatig yn mynegi’r marciwr αvβ6, bydd yr ymchwil hon yn datblygu firysau oncolytig sy’n targedu celloedd tiwmorau yn ddetholus gan osgoi meinwe iach. Bydd y firysau hyn yn cael eu peiriannu i chwalu stroma trwchus tiwmorau ac ysgogi system imiwnedd y claf yn lleol, gan leihau sgil-effeithiau sy’n gysylltiedig â therapïau systemig confensiynol.

Bydd gwreiddio’r arbenigedd hwn yng Nghymru yn cryfhau capasiti lleol ym maes imiwnofirotherapi canser datblygedig ac yn sicrhau bod cleifion yng Nghymru ymhlith y cyntaf i elwa ar driniaethau mwy diogel a mwy effeithiol. Bydd llwyddiant yng Nghymru yn gosod y dulliau hyn mewn sefyllfa dda i’w mabwysiadu’n ehangach ledled y DU a thu hwnt. Mae hwn eisoes yn llwybr profedig, gan mai claf o Gymru â chanser dwythell y bustl oedd y cyntaf yn y DU i elwa ar ymchwil i firotherapi a gyllidwyd yn flaenorol, pan gafodd ei drin yng Nghanolfan Canser Felindre ar ddiwedd 2025. 

Tîm sy'n cymryd rhan

Dr Charley Lovatt

Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Alan Parker

Prifysgol Caerdydd

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd