Symud at y prif gynnwys

Datblygu Firotherapi Manwl ar gyfer Glioblastoma

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Caerdydd

Math o ymchwil

Triniaethau gwell

Math o ganser

Yr Ymennydd

Glioblastoma (GBM) yw’r math mwyaf cyffredin o ganser yr ymennydd mewn oedolion, ac mae tua 16,000 o achosion yn cael diagnosis yn flynyddol yn y DU. Mae gan GBM brognosis echrydus, a dim ond ~12% o’r sawl a gafodd ddiagnosis o’r clefyd sy’n goroesi 5 mlynedd. Mae triniaethau presennol ar gyfer GBM wedi’u cyfyngu i lawdriniaeth, lle bo modd, ynghyd â chemotherapi. Gyda’i gilydd, mae’r triniaethau hyn yn ymestyn goroesiad cyfartalog rhwng ~5 mis a ~18 mis. Mae GBM yn parhau i fod yn ganser lle mae angen clinigol sylweddol nas diwallwyd.

Yn y prosiect hwn, byddwn yn gwerthuso therapi newydd cyffrous ar gyfer GBM. Mae’r therapi newydd hwn yn “feirws clyfar”, a luniwyd i heintio celloedd GBM yn unig gan ddefnyddio marciwr sy’n doreithiog ar gelloedd canser. Nid yw celloedd iach yn cael eu heintio. Gan weithio gydag arweinwyr ym maes canserau’r ymennydd a llawfeddygaeth yr ymennydd, byddwn yn ymchwilio i botensial y “feirws clyfar” hwn i drin GBM gan ddefnyddio samplau cleifion yn uniongyrchol o’r clinig. Byddwn yn peiriannu’r “feirws clyfar” hwn ymhellach fel ei fod, ar ôl heintio celloedd GBM, yn gorfodi celloedd canser heintiedig i greu meddyginiaethau gwrth-ganser sy’n ysgogi’r system imiwnedd i adnabod yn well a lladd celloedd canseraidd Bydd yr astudiaeth hon yn bwysig wrth ddiffinio llwybr tuag at drosi therapi newydd pwerus ar gyfer GBM at ddefnydd clinigol.

Tîm sy'n cymryd rhan

Yr Athro Alan Parker

Prifysgol Caerdydd

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd